Agor y brif ddewislen

Breisach am Rhein

(Ailgyfeiriad oddi wrth Breisach)

Dinas yn ardal Breisgau, yn rhanbarth Breisgau-Hochschwarzwald o dalaith Baden-Württemberg yn yr Almaen yw Breisach am Rhein, neu yn fyr Breisach. Saif ar lan ddwyreiniol afon Rhein, sy'n ffurfio'r ffîn a Ffrainc yma. Mae tua hanner y ffordd rhwng Freiburg a Colmar, tua 20 km o bob un. Ar ochr arall yr afon, gyda phont yn eu cysylltu, mae Neuf-Brisach yn Alsace, Ffrainc. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 14,352.

Breisach am Rhein
Breisach 73.850.jpg
DEU Breisach am Rhein COA.svg
Math bwrdeistref yr Almaen Edit this on Wikidata
Poblogaeth 7,173, 7,233, 7,469, 7,804, 7,941, 8,250, 8,376, 8,523, 8,722, 8,336, 8,465, 8,713, 9,145, 9,276, 9,237, 9,230, 9,201, 9,210, 9,149, 9,263, 9,433, 9,553, 9,684, 9,889, 9,950, 9,913, 10,021, 9,905, 9,981, 10,121, 10,325, 10,616, 10,891, 11,356, 11,586, 11,771, 11,852, 12,219, 12,391, 12,642, 12,995, 13,090, 13,304, 13,669, 14,014, 14,140, 14,264, 14,398, 14,352, 14,324, 14,364, 14,505, 14,067, 14,218, 14,464, 15,315, 7,644, 15,474 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Saint-Louis, Pürgg-Trautenfels, Neuf-Brisach, Oświęcim Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Breisgau-Hochschwarzwald, Breisach am Rhein VVG Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd 54.61 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 191 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 48.0289°N 7.58°E Edit this on Wikidata
Cod post 79206 Edit this on Wikidata

Ceir olion hen sefydliad Celtaidd ar y bryn lle saif yr hen ddinas, ac mae'r enw ei hun o darddiad Celtaidd. Ar un adeg, pan fyddai llif yn yr afon, byddai'r bryn yn troi'n ynys. Dim ond wedi i Johann Gottfried Tulla sythu cwrs yr afon yn y 19g y daeth hyn i ben.

Dechreuwyd adeiladu Eglwys Gadeiriol Sant Steffan yn y 13g, ac yn y 16g roedd Breisach yn gaer bwysig yn perthyn i'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas yn 1793, yn y rhyfeoledd a ddilynodd Chwyldro Ffrainc, ac eto tua diwedd yr Ail Ryfel Byd wrth i'r Cyngheiriaid ymladd i groesi afon Rhein.

Mae cynhyrchu gwin yn bwysig yma, ac mae Badische Winzerkeller eG yn Breisach yn un o seleri gwin mwyaf Ewrop.