Brenda Chamberlain
ysgrifennwr, bardd, arlunydd (1912-1971)
Arlunydd o Gymru a bardd yn yr iaith Saesneg oedd Brenda Chamberlain (17 Mawrth 1912 – 11 Gorffennaf 1971). Enillodd Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1951 a 1953[1].
Brenda Chamberlain | |
---|---|
Ganwyd | 1912 Bangor |
Bu farw | 11 Gorffennaf 1971 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, arlunydd, llenor |
Bywgraffiad
golyguGaned Brenda Chamberlain ym Mangor ym 1912. Astudiodd yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain, gan ddychwelyd i fyw yn Llanllechid. Bu'n briod â'r arlunydd John Petts, gan sefydlu Gwasg Caseg gydag o. Ysgarodd y ddau ym 1943. Ym 1947, symudodd i fyw ar Ynys Enlli, a bu'n gweithio yno hyd at 1962.
Llyfryddiaeth
golygu- The Green Heart (1958)
- Tide-Race (1962)
- The Water-castle (1964)
- A Rope of Vines (1965)
- Alun Lewis and the Making of the Caseg Broadsheets (1969)
- Poems with Drawings (1969)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Brenda Chamblerlain". Drudwen. 2019-08-07.