Agor y brif ddewislen

Ynys ar gwr gogleddol Bae Ceredigion sy'n gorwedd i'r gorllewin o benrhyn Llŷn, yng Ngwynedd, yw Ynys Enlli (Saesneg: Bardsey Island).

Ynys Enlli
Bardsey Lighthouse.jpg
Math ynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 1.79 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr Iwerddon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.7611°N 4.7847°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH122218 Edit this on Wikidata
Cod post LL53 Edit this on Wikidata
Hyd 1.6 cilometr Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Rhaid croesi'r Swnt, sef y môr rhwng Aberdaron ac Enlli, i fynd i'r ynys.

HanesGolygu

 
Cwch yn Aberdaron oddeutu 1885.

Sefydlwyd mynachlog ar Enlli yn y bumed ganrif gan Sant Cadfan. Dichon bod meudwyon clas Aberdaron yn croesi i'r ynys er mwyn ymneilltuo o'r byd yn yr oesoedd cynnar. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth yr ynys yn gyrchfan pererindota enwog. Roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cyfateb i un i Rufain. Yn ôl traddodiad mae ugain mil o saint wedi eu claddu yno. Yn ddiweddarach disodlwyd yr hen fynachlog Geltaidd gan Abaty'r Santes Fair, abaty Awstinaidd; mae olion yr hen abaty i'w gweld yno o hyd.

Gerallt GymroGolygu

Galwodd Gerallt Gymro yn Nefyn ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Dyma ei ddisgrifiad o'r ynys:

'Ond y mae'n gorwedd y tu draw i Lŷn ynys fechan y preswylia ynddi fynaich ffyddlon iawn eu crefydd, a alwant Coelibes ("gwŷr dibriod") neu Colidei ("addolwyr Duw"). Rhyfeddod a berthyn i'r ynys hon, naill ai oherwydd iachusrwydd yr awyr a dderbyn o'i chymdogaeth agos at Iwerddon, neu'n hytrach trwy ryw wyrth a haeddianau'r saint, yw bod y bobl hynaf ynddi yn marw gyntaf, gan mai'n brin iawn y ceir clefydon ynddi; ac yn anaml, heu nid o gwbl, y bydd neb farw yma, onid ar ôl nychdod hir henaint. Enlli, yn Gymraeg, y gelwir yr ynys hon, ac yn yr iaith Saesneg, Bardsey. Ac ynddi, yn ôl traddodiad, y mae cyrff dirifedi saint wedi eu claddu; a thystiant mai yno y gorwedd corff y gwynfydedig Ddaniel, esgob Bangor.'

Y goleudyGolygu

 
Y goleudy sgwar c.1885 (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Codwyd goleudy ar bwynt deheuol yr ynys yn 1821. Mae'r goleudy o siâp sgwâr anghyffredin ac yn gant troedfedd o uchder. Fel yn achos Ynys Lawd, Joseph Nelson oedd y pensaer. Costiodd £2,950 i godi. Mae'r goleudy yn otomatig bellach ac yn cael ei redeg o ganolfan gwylio'r glannau Caergybi.

AdarGolygu

Mae Gwylfa Adar ar yr ynys, sy'n bwysig fel man nythu i nifer o rywogaethau, yn enwedig Aderyn-Drycin Manaw. Yn ystod y tymor mudo yn yr hydref gellir gweld adar anarferol iawn ar yr ynys.

Ymddiriedolaeth Ynys EnlliGolygu

Mae'r ynys yng ngofal Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Ceir fferm weithredol ar yr ynys o hyd ac mae hi'n boblogaidd gan ymwelwyr sy'n ceisio tawelwch. Ar dywydd braf gellir croesi'r Swnt iddi ar gychod sy'n hwylio o Aberdaron.

Afalau Ynys EnlliGolygu

Enlli yw cartref gwreiddiol Afalau Ynys Enlli, a elwir weithiau "yr afal mwyaf prin yn y byd". Credir i'r coed afalau gael eu tyfu yno aers y 14g gan y mynachod. Goroesoedd rhai enghreifftiau dros y canrifoedd ond ni chafodd ei hadnabod yn rhywogaeth arbennig tan 1998 pan anfonodd Ian Sturrock sampl i'r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol yn Brogdale, Caint. Mae coed Afalau Enlli ar werth mewn sawl man erbyn heddiw.

GweinidogionGolygu

  • William Jones

Daeth un o ddyddiaduron William Jones, Enlli, gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ar yr Ynys, i’r fei yn 2012. Dyddiadur y flwyddyn 1906 ydoedd, ac yn ogystal â’i drefniadau yn y gwahanol gapeli ym Mhen Llŷn roedd o hefyd yn cofnodi’r glaw a ddisgynodd ar yr ynys ddiwrnod olaf pob mis (neu’r diwrnod cynt os digwyddai i’r diwrnod olaf ddisgyn ar y Sabboth!)

 
Graff o fesuriadau glaw Ynys Enlli 1906, a godwyd o Ddyddiadur Y Parch. William Jones

Dilyna cofnodion WJ (graff uchaf) y stadegau swyddogol Cymru a Lloegr y flwyddyn honno yn agos. Ionawr, Mehefin a Thachwedd oedd yr eithriadau gyda ffigyrau’r gweinidog yn is o dipyn na’r cyfartaledd ehangach. Mae hyn yn nodweddiadol o ynysoedd sydd yn aml gyda’u “hinsawdd eu hunain”.

Er i offeiriaid yr eglwys Anglicanaidd ragori fel naturiaethwyr dros tair canrif (er gwell neu waeth i’w dyletswyddau bugeiliol eraill!) ychydig o dystiolaeth sydd yna am weinidogion anghudffurfiol yn ymddiddori yn y byd o’u cwmpas (ai ar y Byd Nesaf oedd eu bryd?). Ymddengys felly bod William Jones yn eithriad hn hyn o beth.

OrielGolygu

Gweler hefydGolygu

LlyfryddiaethGolygu

  • Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), t.126.
  • Jennie Jones, Tomos o Enlli (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1964). Atgofion difyr ac unigryw Tomos Jones, hen lanc chwech a phedwar ugain oed a aned ar yr ynys ac a dreuliodd ei oes yno, wedi ei godi oddi ar dafod-leferydd gan yr awdures.

Cysylltiadau allanolGolygu