Brenda Hogan

llenor

Seicolegydd clinigol o Vancouver, Canada yw Dr Brenda Hogan.[1]

Brenda Hogan
DinasyddiaethBaner Canada Canada
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Mae'n gweithio ym maes asesu seicolegol a darparu triniaeth seicolegol dros gyfnod byr ar gyfer gorbryder ac iselder. Cyn hynny, bu'n gweithio ar greu gwasanaeth arloesol ym maes gofal sylfaenol yng Nghaergrawnt yn seiliedig ar ddulliau hunangymorth i helpu i liniaru nifer o broblemau seicolegol cyffredin.

Mae hi wedi cyhoeddu nifer o lyfrau am ymdopi efo problemau iechyd meddwl gan gynnwys Cyflwyniad i Ymdopi Ag Iselder a Cyflwyniad i Ymdopi â Gorbryder.

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.gwales.com - 1784617644". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Brenda Hogan ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.