Vancouver
Dinas yng ngorllewin Canada yw Vancouver.
![]() | |
![]() | |
Math | dinas fawr, city in British Columbia, tref ar y ffin ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | George Vancouver ![]() |
Poblogaeth | 662,248 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ken Sim ![]() |
Cylchfa amser | UTC−08:00, America/Vancouver ![]() |
Gefeilldref/i | Yokohama, Odesa, Caeredin, Guangzhou, Los Angeles, Rio de Janeiro, Amsterdam, Cali, Arequipa, Coevorden, Dubai ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Metro Vancouver Regional District ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 115 km² ![]() |
Uwch y môr | 2 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Fraser, Burrard Inlet, English Bay ![]() |
Yn ffinio gyda | West Vancouver, Burnaby, University Endowment Lands, Richmond, North Vancouver, North Vancouver ![]() |
Cyfesurynnau | 49.2608°N 123.1139°W ![]() |
Cod post | V5K ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Vancouver ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Vancouver ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Ken Sim ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | William Cornelius Van Horne ![]() |
- Mae'r erthygl yma am ddinas Vancouver. Am yr ynys, gweler Ynys Vancouver

Vancouver yw dinas fwyaf talaith British Columbia ar arfordir gorllewinol Canada. Sefydlwyd gwladfa fach o'r enw "Gastown" ar y safle ym 1862 a datblygodd yn dre fach o'r enw "Granville". Ailenwyd y dre yn "Vancouver" ym 1886 ar ôl y fforiwr George Vancouver (1757-1798).
Erbyn heddiw mae hanner miliwn o bobl yn byw yn y ddinas gyda dros 2 miliwn yn ardal ddinesig Vancouver Fwyaf. Mae ardal dinas Vancouver yn cynnwys bron hanner poblogaeth talaith British Columbia.
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn Vancouver, ynghyd â thref Whistler.
Cludiant golygu
Bysiau golygu
Mae Bysiau Greyhound yn mynd i ddinasoedd eraill yn Ganada. Mae bysiau Pacific yn mynd i Victoria a Whistler, Snowbws i Whistler; mae bysiau Cantrail a Quick Shuttle yn mynd i Seattle.
Feriau golygu
Mae Feriau BC yn cysylltu'r ddinas â'r ynysoedd yn Columbia Brydeinig. Mae Seabus yn mynd o derminws Waterfront, ynghanol y ddinas, i Ogledd Vancouver
Trenau golygu
Mae trenau VIA Rail yn mynd i ddinasoedd eraill yng Nghanada, ac mae Amtrak yn croesi'r ffin i Portland, Oregon a Seattle.
Awyrennau golygu
Mae gan Vancouver maes awyr rhyngwladol (YVR), ac mae awyrennau môr yn cynnig gwasanaethau o'r harbwr i'r ynysoedd.
Cludiant lleol golygu
Mae Translink yn cynnig cludiant yn ardal Vancouver, gan gynnwys bysiau a threnau. Mae Skytrain yn cynnwys 2 lein, ac mae un arall, Canada Line, yn mynd o'r ddinas i'r maes awyr.
West Coast Express golygu
Mae West Coast Express yn gyfres o drenau 5 yn y bore o Mission i Vancouver, a 5 yn y prynhawn yn ôl i Mission, rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Mae gwasanaeth bws hefyd.[1]