Bretforton
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Bretforton.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Wychavon. Saif tua 4.4 milltir (7.1 km) i'r dwyrain o Evesham, yn Nyffryn Evesham.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Wychavon |
Poblogaeth | 1,052, 1,190 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerwrangon (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 689.27 ha |
Cyfesurynnau | 52.095°N 1.8668°W |
Cod SYG | E04010368 |
Cod OS | SP092440 |
Cod post | WR11 |
Maint y plwyf sifil yw 6.89km². Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddo boblogaeth o 1,052.[2]
Mae neuadd y pentref, tafarn (Tafarn y Fleece), clwb y Lleng Brydeinig, eglwys (Eglwys Sant Leonard) a 2 ysgol. Soniodd dogfen Sacsoniaid am "Brotfortun" yn 714, yn golygu "Rhyd gyda estyll", efallai yn cyfeirio at bont bren yn ymyl y rhyd. Mae’r pentref yn sefyll ar hen ffermdir Abaty Evesham.
Mae’r pentref yn cynnal gŵyl ferllys, sy’n dechrau ym mis Ebrill ac yn parhau am chwe wythnos.[3] Mae gan y pentref fand arian, sy’n dyddio o 1895, pan oedd o Band Dirwestol Bretforton.[4] Mae hefyd clwb criced, sy’n chwarae yng Nghyngrair Criced Bryniau’r Cotswolds.
Agorwyd ysgol y pentref ar 26 Mehefin 1877. Daeth yn academi ar 30 Ionawr 2018.[5]
-
Eglwys Sant Leonard
-
Tafarn y Fleece
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 4 Gorffennaf 2020
- ↑ City Population; adalwyd 4 Gorffennaf 2020
- ↑ Gwefan y Fleece
- ↑ http://www.bretfortonsilverband.co.uk
- ↑ "Gwefan Ysgol y Pentref". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-16. Cyrchwyd 2020-06-16.