Tafarn y Fleece, Bretforton

Mae Tafarn y Fleece yn dafarn ym mhentref Bretforton, Swydd Gaerwrangon, ger Evesham. Adeiladwyd y tafarn yn ystod y 15g gan ffarmwr o’r enw Byrd. Roedd y teulu’n berchnogion y tafarn hyd at 1977, pan roddwyd y tafarn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan Lola Taplin, disgynnydd o’r teulu Byrd.[1] Gwelir tylluan ar do’r ysgubor, a dywedir gan bobl leol bod ysbryd Lola Taplin ydy hi.[2]

Stordy a'r ysgubor

Cynhelir cyngerddau gwerin yn ysgubor y tafarn, ac mae’r tafarn yn cynnal amrywiaeth o wyliau, gan gynnwys Gŵyl ferllys ym mis Ebrill a Gŵyl Afalau a Chwrw yn mis Hydref.[2] Mae arwerthiannau merllys yn y tafarn ym mis Mehefin a Dawns Morus yng ngardd y tafarn.[3]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerwrangon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.