Brigantia oedd prif dduwies y Brigantes, llwyth Celtaidd a drigai yn y tir sy'n ogledd Lloegr erbyn heddiw. Er iddi gael ei haddoli mewn rhannau eraill o'r Brydain Rufeinig yn ogystal, roedd hi'n dduwies arbennig i'r Brigantiaid, a enwir ar ei hôl, yn ôl pob tebyg.

Cerflun honedig o'r dduwies, o Lydaw

Cedwir enw'r dduwies mewn saith arysgrif o'r cyfnod Rhufeinig. Mae dwy o'r rhain yn ei huniaethu â'r dduwies Rufeinig Victoria. Mae un arall yn ei huniaethu â Caelestis, un o dduwiesau'r Gogledd Affrica Rufeinig. Mae cerflun o gaer Rufeinig Birrens, de'r Alban, yn ei phortreadu fel Minerva gyda choron ac adenydd Victoria. Awgryma'r dystiolaeth fod y Rhufeiniaid yn ei gweld fel duwies Buddugoliaeth gyda chysylltiad â'r nefoedd.

Ffynonellau golygu

  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic religion and culture (Boydell Press, 1998)
  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato