Duwies
Bod dwyfol benywaidd yw duwies. Gallai fod yn un o'r duwiau yn y crefyddau amldduwiol neu'n fod dwyfol goruchel y cyfeirir ati'n aml fel 'Y Dduwies Fawr' neu 'Y Fam Dduwies'.
Ymhlith y duwiesau enwocaf yn yr Henfyd y mae Athena, nawdd-dduwies dinas Athen, Anahita yn nhraddodiad Persia, ac Isis, chwaer a gwraig y duw Osiris.
Ceir duwiesau niferus yn Hindŵaeth, e.e. Kali, Parvati a Deva. Ceir nifer o dduwiesau yn nhraddodiad Bwdhaeth Mahayana yn ogystal, yn arbennig ym Mwdhaeth Tibet, e.e. Tara.
Prif dduwiesau'r Henfyd
golygu- Prif: Mytholeg yr Hen Aifft
- Prif: Mytholeg Mesopotamia
- Cyfrinau Eleusis
- Aphrodite (Gwener)
- Artemis (Diana)
- Athena (Minerva)
- Cybele
- Danaë
- Demeter (Ceres)
- Gaia
- Hecate
- Hera (Juno)
- Iris
- Nemesis
- Nike
- Nyx (Nox)
- Persephone
- Prif: Mytholeg Geltaidd
- Abnoba
- Agrona
- Arianrhod
- Blodeuwedd
- Branwen
- Brigid
- Ceridwen
- Dea Matrona
- Dôn
- Epona
- Mórrígan
- Rhiannon
- Sulis
- Verbeia
Crefydd y Llychlynwyr
golygu- Prif: Mytholeg Llychlyn
Crefyddau cyfoes
golyguDevi (neu Mahadevi, 'Y Dduwies Fawr') yw duwies oruchel Hindŵaeth. Gellid dadlau fod pob un o'r duwiesau eraill yn agweddau arni hi. Mae pob duwies yn gymar i un o'r duwiau. Yn ogystal â'r duwiesau mawr a nodir isod, ceir nifer o dduwiesau llai, weithiau'n agweddau ar un o'r duwiesau mwy, weithiau'n dduwiesau brodorol lleol a gawsant eu cymathu â Hindŵaeth.