Brigitte Bardot

actores a aned yn 1934

Actores Ffrengig ac ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid yw Brigitte Anne-Marie Bardot, a adnabyddir fel rheol fel Brigitte Bardot (ganed 28 Medi 1934).

Brigitte Bardot
GanwydBrigitte Anne-Marie Bardot Edit this on Wikidata
28 Medi 1934 Edit this on Wikidata
Paris, 15fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
Man preswylSaint-Tropez Edit this on Wikidata
Label recordioMGM Records, Philips Records, Fontana Records, Barclay Records, Disc'AZ Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcanwr, hunangofiannydd, actor ffilm, ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, artist recordio, dawnsiwr, model ffasiwn, ysgrifennwr, amddiffynnwr hawliau dynol, person cyhoeddus, actor Edit this on Wikidata
Taldra170 centimetr Edit this on Wikidata
TadLouis Bardot Edit this on Wikidata
MamAnne-Marie Mucel Edit this on Wikidata
PriodRoger Vadim, Jacques Charrier, Gunter Sachs, Bernard d'Ormale Edit this on Wikidata
PartnerGilbert Bécaud, Serge Gainsbourg Edit this on Wikidata
PlantNicolas-Jacques Charrier Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Bambi, Order of the Golden Ark, Prix des intellectuels indépendants, Légion d'honneur, Gwobr David di Donatello am Actores Dramor Orau Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.brigitte-bardot.fr Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed hi yn ninas Paris. Gyrrodd ei mam hi a'i chwaer Marie-Jeanne i wersi dawnsio. a phenderfynodd Brigitte fynd yn ddawnswraig bale. Aeth i'r Conservatoire de Paris yn 1947, ac astudiodd fale dan y Rwsiad Boris Knyazev. Wedi gadael y Conservatoire, daeth yn fodel, yna cafodd ran mewn ffilm wedi i'r cyfarwyddwr Roger Vadim sylwi arni. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf, Le Trou Normand, yn 1952, a'r un flwyddyn priododd Vadim.

Yn y 1950au a'r 1960au, ymddangosodd mewn nifer fawr o ffilmiau, yn Ffrangeg a Saesneg, a daeth yn fyd-enwog. Mewn ffilmiau poblogaidd fel Et Dieu crea la femme, gwnaeth lawer i boblogeiddio'r bicini. Ysgarodd Vadim yn 1957, ac yn 1959 priododd yr actor Jacques Charrier. Yn ddiweddarach, bu'n briod a Gunter Sachs a Bernard d'Ormale.

Ymddeolodd o ffilmiau yn y 1970au. Yn y 1990au daeth Bardot yn adnabyddus fel ymgyrchydd dros hawliau anifeiliaid, a daeth hyn a hi i wrthdrawiad ag Islam. Mae wedi cael ei dirwyo nifer o weithiau am sylwadau a ystyrid yn hiliol.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Bardot fined for racist remarks. BBC (16 Mehefin 2000). Adalwyd ar 1 Mawrth 2012.
  2. (Saesneg) Bardot fined over racial hatred. BBC (3 Mehefin 2008). Adalwyd ar 1 Mawrth 2012.