Briksdalsbreen (Cymraeg: rhewlif Briksdal) yw un o'r rhannau mwyaf hygyrch ac adnabyddus  o rewlif Jostedalsbreen. Mae Briksdalsbreen wedi'i leoli ym mwrdeisdref Stryn yn sir Sogn og Fjordane, Norwy. Mae'r rhewlif ar ochr ogleddol y Jostedalsbreen, yn Briksdalen (dyffryn Briks) sydd wedi'i leoli ym mhen draw dyffryn Oldedalen, tua 25 cilometr (16 mi) i'r de o bentref Olden. Mae wedi'i leoli ym Mharc Cenedlaethol Jostedalsbreen. Mae'r Briksdalsbreen yn diweddu mewn llyn rhewlifol bychan o'r enw Briksdalsbrevatnet, sydd 346 metr (1,135 tr) uwchlaw lefel y mor.[1] Mae maint Briksdalsbreen yn dibynnu nid yn unig ar dymheredd; mae hefyd yn cael ei effeithio gan ddyodiad. Mae mesuriadau ers 1900 yn dangos newidiadau bychain yn y degawdau cyntaf, a symudiad ym mlaen y rhewlif yn 1910 a 1929. Yn y cyfnod rhwng 1934 a 1951, ciliodd y rheiwlif gan tua 800 metr (2,600 tr), gan ddatgelu'r llyn rhewlifol. Yn y cyfnod rhwng 1967 a 1997 lledaenodd y rhewlif 465 metr (1,526 tr) a gorchuddio'r llyn yn gyfan gwbl, gyda blaen y rhewlif yn cyrraedd arllwysfa'r llyn. Cafodd y rhewlif sylw rhyngwladol yn y 1990au am ei fod yn tyfu ar adeg pan oedd rhewlifoedd Ewropeaidd eraill yn lleihau.[2]

Briksdalsbreen
Mathrhewlif Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolJostedal Glacier Edit this on Wikidata
SirStryn Municipality Edit this on Wikidata
GwladBaner Norwy Norwy
Cyfesurynnau61.6658°N 6.89°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddScandinavian Mountains Edit this on Wikidata
Map
Y rhewlif yng Ngorffennaf 2006
Briksdalsbreen Norwy: cymharu 2003 a 2008

Ar ôl y flwyddyn 2000, ciliodd y rhewlif eto. Yn 2004 roedd wedi cilio i 230 metr (750 tr) y tu ol i arllwysfa'r llyn  ac yn 2007 roedd blaen y rhewlif ar dir sych y tu ol i'r llyn. Yn hyn o beth, roedd ei safle yn cyfateb i'r hyn ydoedd yn y 1960au. Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn tybio bod maint y rhewlif ar ei leiaf ers y 13g.

Yn 2008, dim ond 12 metr (39 tr) roedd blaen y rhewlif wedi cilio ers iddo gael ei fesur yn 2007.[3] Yr esboniad dros arafiad yn ymdoddiad y rhewlif yw bod y rhewlif bron yn gyfan gwbl ar dir sych. Gwelodd aeaf 2007-2008 gynnydd ym mas y rhewlif, ac roedd disgwyl i hynny symud blaen y rhewlif ymlaen o gwmpas 2010.[4][5] Cafodd hyn ei gadarnhau yn hydref 2010, pan dangosodd mesuriadau bod y rhewlif wedi symud ymlaen 8 metr yn ystod y flwyddyn flaenorol.[6] Roedd hyn, fodd bynnag, mewn cymhariaeth a mesuriadau 2009, a welodd y gwrthgiliad mwyaf ers i'r mesuriadau cyntaf gael eu cymryd yn 1900. 

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Jostedalsbreen Park". Directorate for Nature Management - National Parks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-06. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "NVE - Briksdalsbreen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-04. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Briksdalsbreen minkar mindre". Fjordingen (yn Norwegian). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-26. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. "Ein bre som veks" (yn Norwegian). NRK Sogn og Fjordane.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. Store norske leksikon. "Briksdalsbreen" (yn Norwegian). Cyrchwyd 2010-07-23.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. "fjordingen.no". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2018-07-22.