Dyodiad
Unrhyw fath o gyddwysiad yw dyodiad (weithiau: Dyddodiad). Gall hyn gynnwys glaw, eira, eirlaw, cenllysg, cesair a gwlith.
Mae dyodiad yn digwydd pan fydd cyfran o'r atmosffer yn dirlawn o anwedd dŵr (gan gyrraedd lleithder cymharol o 100%), fel bod y dŵr yn cyddwyso ac yn cwympo. Felly, nid dyodiad yw niwl a tharth ond yn hytrach yr hyn a elwir yn "coloidau", oherwydd nid yw'r anwedd dŵr yn cyddwyso'n ddigonol i waddodi. Gall dwy broses arwain at aer yn dirlawn: oeri'r aer neu ychwanegu anwedd dŵr i'r aer. Mae dyodiad yn ffurfio wrth i ddefnynnau llai gyfuno trwy wrthdrawiad â diferion glaw eraill neu grisialau iâ mewn cwmwl. Gelwir cyfnodau byr, dwys o law mewn lleoliadau gwasgaredig yn "gawodydd".[1]
Nid yw dyodiad bob amser yn cyrraedd y ddaear. Os yw'n disgyn drwy awyr sych fe all droi'n anwedd. Pan nad oes dim dyodiad yn cyrraedd y ddaear, gelwir y cyddwysiad yn virga.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Scott Sistek (26 Rhagfyr 2015). "What's the difference between 'rain' and 'showers'?". KOMO-TV. Cyrchwyd 18 Ionawr 2016.