Cwmni telegyfathrebu sy'n gweithredu Sky Digital yw British Sky Broadcasting (neu BSkyB). Mae'n darlledu drwy wledydd Prydain ac yn darparu teledu a gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) i'w 11 miliwn o gwsmeriaid (2015).[1] hyd at Ebrill 2007 British Sky Broadcasting hefyd oedd y gwasanaeth teledu digidol mwyaf poblogaidd yng ngwledydd Prydain, ond fe'i goddiweddwyd gan Freeview.[2] Yn Isleworth mae ei bencadlys corfforaethol.[3]

Sky plc
Math
busnes
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig cyhoeddus
ISINGB0001411924
Diwydianty diwydiant cyfryngau
Sefydlwyd2 Tachwedd 1990
SefydlyddRupert Murdoch
PencadlysIsleworth
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Gwefanhttps://www.skygroup.sky/ Edit this on Wikidata

Fe'i ffurfiwyd yn Nhachwedd 1990 pan unwyd Teledu Sky (Sky Television plc) a British Satellite Broadcasting, a thrwy hynny daeth Sky yn brif gwmni teledu-drwy-danysgrifiad. Prynnodd Sky Sky Italia a 90.04% o Sky Deutschland yn Nhachwedd 2014 a newidiodd British Sky Broadcasting Group plc ei enw'n Sky plc.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Management Today". BSkyB. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 4 Mehefin 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Freeview digital overtakes Sky". This is Money.
  3. "Our locations". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-30. Cyrchwyd 2017-10-14.
  4. "Sky creates Europe's leading entertainment company". Sky. 13 Tachwedd 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-15. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2014.