Deuawd canu gwlad ydy Broc Môr' a ddechreuodd ganu yn Saesneg dan yr enw Driftwood.[1]

Clawr Y Gadair Wrth Y Tân

Alun a Dafydd Jones yw'r ddeuawd, ac aeth y ddau i Ysgolion Bodedern a Chaergybi, ac ymlaen i ddysgu weldio ar gyfer gyrfa ym musnes eu tad a oedd yn cadw garej "Arfryn" ym Modedern. Ers iddo ymddeol mae'r brodyr wedi parhau efo'r busnes.[2]

Rhyddhawyd eu caset cyntaf nôl yn 1994.

Maen nhw i'w clywed aml ar y radio yn canu gweithiau pobol eraill a'u gwaith eu hunain. Maen nhw hefyd wedi perfformio yn Ne-Orllewin Cymru, ac wedi perfformio yng 'Ngwyl Gwlad i Mi' yn Theatr Gogledd Cymru.

Goleuadau Sir Fôn golygu

  1. Fy merch
  2. Cadair wrth y tân
  3. Goleuadau Sir Fôn
  4. Dim ond gêm
  5. Un llwybr
  6. Falle heno
  7. Noson oer ym Methlem
  8. Maria
  9. Nei di aros
  10. Cariad sy’n fyw
  11. Y cylch di-ddiwedd aur
  12. Carol
  13. Ceidwad y goleudy.

Cyfeiriadau golygu