Pren sydd wedi'i olchi ar lan neu draeth yw broc môr neu drec môr o ganlyniad i wyntoedd, llanw neu donnau. Gall hefyd gael ei olchi ar lan llyn neu afon, ac mae weithiau'n cael ei alw'n broc dŵr.

Broc môr
Mathllygredd mân Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Traeth wedi'i orchuddio â broc môr.

Gall broc môr gael ei ystyried yn drafferthus mewn rhai ardaloedd ar lan dŵr, ond mae'n rhoi cysgod a bwyd i adar, pysgod a rhywogaethau dyfrol eraill wrth iddo arnofio ar wyneb y dŵr. Mae griblau, llyngyr a bacteria yn pydru'r pren ac yn raddol ei droi'n faetholion sy'n cael eu hailgyflwyno i'r we fwyd. Weithiau, mae'r coed sydd wedi pydru'n rhannol yn dod i'r lan, lle mae hefyd yn rhoi cysgod i adar, planhigion a rhywogaethau eraill. Gall broc môr droi'n sylfaen i dwyni tywod.

Gweddillion coed, rhai cyfan neu rhannau ohonynt, sydd wedi'u golchi i mewn i'r môr gan lifogydd, gwyntoedd uchel neu ddigwyddiadau naturiol eraill, neu o ganlyniad i dorri coed yw'r rhan fwyaf o froc môr. Mae broc môr hefyd yn gallu bod yn goed defnydd, sef olion gwrthrychau pren o waith dyn. Mae rhain yn cynnwys adeiladau a'u dodrefn a olchwyd i'r môr yn ystod stormydd, gwrthrychau pren a daflwyd i'r dŵr o'r lan, paciau a ollyngwyd neu gargo coll o longau, ac gweddillion llongau pren a chychod sydd wedi'u dryllio. Gall erydiad a symudiad y tonnau ei gwneud yn anodd neu'n amhosibl i wybod tarddiad darn penodol o froc môr.

Gellir defnyddio broc môr fel rhan o ddodrefn addurnol neu ffurfiau eraill o gelf, ac mae'n boblogaidd fel addurn i'w osod mewn tanc pysgod.