Brodordy Dinbych
Sefydlwyd Brodordy Dinbych yn nhref Dinbych ar ddiwedd y 13g gan Urdd y Carmeliaid, a adnabyddir hefyd fel 'Y Brodyr Gwynion'.
Math | brodordy |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dinbych |
Sir | Dinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 51.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.187831°N 3.409083°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE023 |
Codwyd y brodordy i'r dwyrain o Gastell Dinbych. Cafodd nawdd gan Esgobaeth Llanelwy a noddwyr llÿyg. Erbyn dechrau'r 16g cofnodir dau o frodyr-esgobion Llanelwy yn byw yno. Erbyn 1537, pan ddiddymwyd y brodordy gan Harri VIII o Loegr, dim ond pedwar brawd oedd yn byw yno.
Roedd eglwys y brodordy yn cael ei rhannu'n ddau gan lobi gyda'r brodyr yn eistedd mewn côr i'r dwyrain gyda'u hallor eu hunain a'r bobl llÿyg i'r gorllewin, hwythau gyda'u hallor eu hunain.
Ar wahân i ddarn bychan o'r abaty, dim ond eglwys adfeiliedig y brodordy sy'n sefyll heddiw. Llosgwyd yr adeiladau eraill i'r llawr yn 1899; roeddent yn cael eu defnyddio fel ystordy gwlân ar y pryd. Lleolir yr eglwys ar Stryd y Wyddgrug.
Mae'r adfeilion yng ngofal Cadw.
Ffynhonnell
golygu- Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Prehistoric Wales. (HMSO, 1995), tud. 131.