Brombil
Mynydd Brombil yw un o'r mynyddoedd tu ôl i dre Port Talbot, yng Nghastell-nedd Port Talbot ac sy'n rhan o sir hanesyddol Sir Forgannwg. Mae'n cysylltu gyda Mynydd Margam ac mae pobol yn aml yn cymysgu'r ddau.[1] Ar gopa'r mynydd, sy'n 257 metr, ceir heneb a elwir yn Ergyd Isaf.
Math o gyfrwng | bryn |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Islaw, ar droed y mynydd ceir pentrefan Brombil, sydd o fewn cymuned Gweunydd Margam.[2] Mae Cronfa Ddŵr Brombil yn gronfa ddŵr breifat sy’n eiddo i Leisure Estate Investments Ltd.[3] Ceir llwybr 900m at y gronfa o gymuned Brombil.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ swansearamblers.org.uk; adalwyd 4 Ionawr 2025.
- ↑ StreetCheck. "Gwybodaeth defnyddiol am yr ardal yma". StreetCheck (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-23.
- ↑ Gwefan; adalwyd 4 Ionawr 2025.