Llid tymor byr ar y broncws (llwybrau anadlu mawr a chanolig yr ysgyfaint) yw broncitis acíwt, a elwir hefyd yn annwyd ar y frest.[1] Ymhlith y symptomau mwyaf cyffredin y mae peswch. Gall hefyd achosi peswch mwcws, gwichian, diffyg anadl, twymyn, ac ymdeimlad anghysurus ynghylch y frest. Gellir gwella'r salwch o fewn ychydig ddiwrnodau. Efallai y bydd y peswch ei hun yn parhau am gyfnod o wythnosau a gellir dioddef symptomau am gyfnod o oddeutu tair wythnos. Dioddefa rhai am hyd at chwe wythnos.

Broncitis acíwt
Enghraifft o'r canlynolsymptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathbroncitis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn achos mwy na 90% o ddioddefwyr, achosir y cyflwr gan haint feirol. Lledaenir y firysau hyn yn yr aer drwy beswch neu wedi cyswllt uniongyrchol a dioddefwr. Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys anadlu mwg tybaco, llwch a llygreddau yn yr aer. Caiff nifer fechan o unigolion eu heffeithio oherwydd lefelau uchel o lygredd neu facteria yn yr aer, megis Mycoplasma pneumoniae neu Bordetella pertussis.[2] Fel arfer, gwneir diagnosis o ganlyniad i symptomau'r dioddefwr. Ni ellir gwahaniaethu rhwng heintiau firaol neu facteriol o ganlyniad i liw poer. Fel rheol nid oes gofyn i rywun wahaniaethu. Arddangosir symptomau tebyg yn achosion megis asthma, niwmonia, bronciolitis, bronciectasis, a COPD. Mae cynnal pelydr-x ar y frest yn ddefnyddiol i ganfod niwmonia.

Gellir osgoi'r clefyd drwy beidio ag ysmygu a chadw draw o lidwyr ysgyfaint eraill. Yn ogystal, y mae golchi dwylo'n aml yn ddefod amddiffynnol.[3] Fel arfer, wrth drin broncitis acíwt, rhaid i glaf orffwys, cymryd parasetamol (acetaminophen) a NSAIDs er mwyn gwella twymyn. Ni argymhellir defnyddio meddyginiaeth peswch ac yn sicr nid ar gyfer plant sy'n iau na chwech oed. Nid yw Salbutamol yn effeithiol ychwaith ar gyfer plant â pheswch aciwt, ac eithrio'r rhai sydd â llwybrau anadlu cyfyngedig. Ceir stôr o dystiolaeth wan sy'n dangos y gall salbutamol fod yn driniaeth effeithiol ar gyfer oedolion gyda llwybr anadlu cyfyngedig; fodd bynnag, mewn rhai achosion, arweinir at nerfusrwydd, siglogrwydd neu gryndod. Yn gyffredinol ni ddylid defnyddio gwrthfiotigau. Ceir un eithriad serch hynny, sef pan achosir broncitis acíwt gan y pâs. Mae stôr o dystiolaeth betrus yn cefnogi defnyddioldeb mêl a mynawyd yn y broses o wella symptomau.

Mae Broncitis acíwt ymhlith rhai o'r clefydau mwyaf cyffredin. Effeithir tua 5% o oedolion a dioddefa 6% o blant y cyflwr o leia unwaith y flwyddyn.[4] Yn y gaeaf, gweler cynnydd mewn achosion. Yn flynyddol, ai mwy na 10 miliwn o bobl yn yr Unol Daleithiau at feddyg gyda'r cyflwr, a rhoddir gwrthfiotigau i oddeutu 70% ohonynt, er nad oes eu hangen ar y rhan fwyaf o ddioddefwyr. Mae'r sector yn ymdrechu i leihau'r nifer o wrthfiotigau a roddir mewn achosion broncitis acíwt.

Cyfeiriadau golygu

  1. "What Is Bronchitis?". August 4, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2015. Cyrchwyd 1 April 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "What Causes Bronchitis?". August 4, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2015. Cyrchwyd 1 April 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "How Can Bronchitis Be Prevented?". August 4, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2015. Cyrchwyd 1 April 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Fleming, DM; Elliot, AJ (March 2007). "The management of acute bronchitis in children.". Expert opinion on pharmacotherapy 8 (4): 415–26. doi:10.1517/14656566.8.4.415. PMID 17309336.