Niwmonia

afiechyd yn yr ysgyfaint


Llid heintiol sy'n effeithio'r ysgyfaint yw niwmonia.[1] Mae'n effeithio ar y codenni aer bach (alfeoli) lle mae ocsigen yn mynd i mewn i’r gwaed a charbon deuocsid yn dod allan. Gall pob un o'r canlynol ei achosi: bacteria, feirws, ffwng, paraseit, cemegolion neu niwed corfforol.

Niwmonia
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus, dosbarth o glefyd, achos marwolaeth Edit this on Wikidata
Mathafiechyd yr ysgyfaint, haint yn y llwybr anadlu uchaf, pneumonitis, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauPeswch, tachypnea, y dwymyn, diffyg anadl, hemoptysis, snoring, oerni edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae'n afiechyd eitha cyffredin ac mae'n achosi marwolaeth yn yr henoed, plant dan 5 oed neu'r gwan a'r llesg ledled y byd.[2]

Ceir brechiadau ar gyfer rhai mathau o niwmonia. Mae prognosis y claf, fodd bynnag, yn dibynnu ar math o niwmonia mae wedi ei ddal. Mae hefyd yn dibynnu ar y driniaeth, unrhyw gymhlethdodau ac iechyd cyffredinol y claf.

Achosion golygu

Gall llawer o wahanol fathau o facteria a firysau achosi niwmonia. Os mai bacteria neu firysau sy’n achosi niwmonia, yna mae’n heintus – hynny yw, fe allwch chi ei ddal gan rywun arall. Bacteriwm o’r enw streptococcus pneumoniae yw achos mwyaf cyffredin niwmonia. Mae’n llawer llai heintus na ffliw neu annwyd, oherwydd gall system imiwnedd pobl ei ladd cyn iddo achosi haint. Mae mwy o bobl yn cael niwmonia yn y gaeaf oherwydd bod heintiau eraill sy’n lledaenu’n hawdd o’r naill berson i’r llall, fel ffliw, yn fwy cyffredin yn y gaeaf. Os gewch chi ffliw, mae gennych fwy o siawns o ddatblygu niwmonia.[3]

Symtomau golygu

Fel rheol golygu

Fel rheol, gall gymryd rhwng diwrnod i ddau ddiwrnod i'r symtomau ymddangos. Mae niwmonia'n peri i'r claf beswch, mae'r llid hwn hefyd yn ei gwneud yn anoddach i chi anadlu (dyspnoea) ac mae'r corff yn ei chael hi'n anodd i amsugno ocsigen i mewn i'r corff, felly fe allwch fynd yn fyr eich gwynt. Gellir wrth y symtomau hyn hefyd:

  • yr anadlu'n troi'n wichian
  • fflem (miwcws trwchus)
  • chwysu a chrynu a hyd yn oed twymyn (pobl ifanc fel arfer)
  • colli awydd bwyd
  • poen yn y frest
  • teimlo'n sâl yn gyffredinol

Yn bur anaml golygu

Mae'r symptomau canlynol yn llai cyffredin:

Symtomau difrifol golygu

  • eich croen yn troi'n llwyd neu'n las (''cyanosis'')
  • teimlo'n ddryslyd a digyfeiriad

Cyfeiriadau golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!