Brwydr Chancellorsville
Un o frwydrau mwyaf Rhyfel Cartref America oedd Brwydr Chancellorsville. Ymladdwyd y frydr ger pentref Spotsylvania Courthouse, Virginia. rhwng 30 Ebrill a 6 Mai 1863. Llwyddodd byddin y De dan Robert E. Lee i orchfygu byddin lawer mwy yr Undeb dan Joseph Hooker.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Rhan o | Rhyfel Cartref America |
Dechreuwyd | 30 Ebrill 1863 |
Daeth i ben | 6 Mai 1863 |
Lleoliad | Spotsylvania County |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreuodd y frwydr pan groesodd byddin yr Undeb Afon Rappahannock ar fore 27 Ebrill, 1863. Erbyn 30 Ebrill roeddynt ger Chancellorsville, a dechreuodd yr ymladd ar 1 Mai. Parhaodd hyd nes i fyddin yr Undeb orfod encilio ar noson 5 a 6 Mai.
Roedd yn fuddugoliaeth bwysig i'r De, ond collasant un o'u cadfridogion gorau pan saethwyd Stonewall Jackson gan ei filwyr ei hun wrth iddo ddychwelyd at y fyddin yn y gwyll. Bu farw o'i glwyfau ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.