Robert Edward Lee, a adwaenir fel Robert E. Lee, (19 Ionawr 1807 - 12 Hydref 1870), oedd y cadfridog amlycaf ar ochr y De Cydffederal yn Rhyfel Cartref America.

Robert E. Lee
GanwydRobert Edward Lee Edit this on Wikidata
19 Ionawr 1807 Edit this on Wikidata
Stratford Hall Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 1870 Edit this on Wikidata
Lexington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Taleithiau Cydffederal America, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Filwrol yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol, person milwrol, swyddog y fyddin Edit this on Wikidata
SwyddGeneral in Chief of the Armies of the Confederate States, Superintendent of the United States Military Academy Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Washington and Lee University Edit this on Wikidata
TadHenry Lee III Edit this on Wikidata
MamAnne Hill Carter Lee Edit this on Wikidata
PriodMary Anna Custis Lee Edit this on Wikidata
PlantWilliam Henry Fitzhugh Lee, Robert E. Lee, Jr., George Washington Custis Lee, Mary Custis Lee, Anne Carter Lee, Eleanor Agnes Lee, Mildred Childe Lee Edit this on Wikidata
PerthnasauHenry Lee II, George Washington Parke Custis, Mary Lee Fitzhugh Custis, Samuel Phillips Lee, Zachary Taylor Edit this on Wikidata
LlinachLee family Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Lee yn Westmoreland County, Virginia, yn fab i Henry Lee III "Light Horse Harry" (1756–1818), Llywodraethwr Virginia, a'i ail wraig, Anne Hill Carter (1773–1829). Aeth i ysgol filwrol West Point, lle roedd yn un o'r myfyrwyr disgeiriaf. Erbyn i'r Rhyfel Cartref ddechrau, ystyrid ef yn un o filwyr galluocaf yr Unol Daleithiau, ac yn gynnar yn 1861, cynigiodd yr Arlywydd Abraham Lincoln ei wneud yn bennaeth ar fyddin yr Undeb. Gwrthododd Lee, gan fod talaith Virginia ymhlith y taleithiau oedd wedi gadael yr Undeb, a'i fod yn teimlo fod rhaid iddo ddilyn ei dalaith.

Daeth yn brif gynghorydd i Jefferson Davis, Arlywydd y De, yna ym mis Mehefin 1862 daeth yn arweinydd lluoedd y De yn y dwyrain, byddin a ail-enwodd Lee yn "Fyddin Gogledd Virginia". Enillodd nifer o fuddugoliaethau pwysig dros fyddinoedd yr Undeb, yn arbennig Brwydrau'r Saith Diwrnod, Ail Frwydr Bull Run, Brwydr Fredericksburg a Brwydr Chancellorsville. Pan geisiodd ymosod ar y Gogledd, bu'n llai llwyddiannus; bu raid iddo ddychwelyd i'r de wedi Brwydr Antietam yn 1862, a gorchfygwyd ef ym Mrwydr Gettysburg yn 1863 gan George Meade.

Yng ngwanwyn 1864, dechreuodd pennaeth newydd byddinoedd yr Undeb, Ulysses S. Grant, gyfres o ymgyrchoedd yn erbyn byddin Lee. Er fod golledion Grant yn llawer mwy na rhai Lee yn y brwydrau a ddilynodd, gallai'r Undeb ddod a milwyr newydd i'r maes yn eu lle, tra'r oedd adnoddau'r de bron ar ben. Bu raid i Lee ildio i Grant yn Appomattox Courthouse ar 9 Ebrill 1865.