Brwydr Dupplin Moor
Ymladdwyd Brwydr Dupplin Moor ar 10–11 Awst 1332 rhwng byddin dilynwyr Dafydd II, a oedd wedi ei goroni yn frenin yr Alban y flwyddyn flaenorol, a oedd yn fachgen wyth oed ar y pryd, a byddin ymgyrchol Edward Balliol, a oedd yn hawlio'r orsedd. Roedd maes y gad yn agos i dref Perth, yr Alban.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 11 Awst 1332 |
Rhan o | Ail Ryfel Annibyniaeth yr Alban |
Dechreuwyd | 10 Awst 1332 |
Daeth i ben | 11 Awst 1332 |
Gwladwriaeth | Teyrnas yr Alban |
Cafodd Balliol gefnogaeth Edward III, brenin Lloegr yn ei ymgyrch i gipio'r orsedd. Cafodd hefyd gymorth mwy ymarferol Henry de Beaumont, Sais a fforffedodd ei diroedd yn yr Alban. Hwyliodd lluoedd y gwrthryfelwyr ynghyd â'u cynghreiriaid Seisnig o Swydd Efrog i Kinghorn, Fife. Oddi yno fe fe ymdeithion nhw i Dunfermline ac ymlaen i gyfeiriad Perth. Ar 10 Awst gwersyllon nhw yn Forteviot, i'r de o Afon Earn. I'r gogledd o'r afon roedd gwersyll byddin y teyrngarwyr, a hynny dan orchymyn Iarll Mar. Croesodd lluoedd Balliol yr afon dan lenni'r nos i ennill uchelfan ar gyfer brwydr y diwrnod canlynol. Yn ystod y frwydr cafodd lluoedd Mar, yn anhrefnus ac ag arfwisg wael, eu llethu gan holl saethwyr eu gwrthwynebwyr. Cyflafan oedd y canlyniad.
Roedd Balliol yn fuddugol, ac ychydig wythnosau yn ddiweddarach coronwyd ef yn Scone, er iddo gael ei orfodi i ffoi o'r Alban yn fuan wedi hynny.