Edward Balliol
Hawliwr i orsedd yr Alban oedd Edward Balliol (Gaeleg yr Alban: Èideard Balliol; tua 1283–1367). Roedd yn fab hynaf i John Balliol, brenin yr Alban 1292–6, ac Isabella de Warenne. Gyda chymorth o Loegr, rheolodd rannau o'r deyrnas rhwng 1332 a 1356.
Edward Balliol | |
---|---|
Ganwyd | 1283 |
Bu farw | Ionawr 1364 Doncaster |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Alban |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | teyrn yr Alban |
Tad | John Balliol |
Mam | Isabella de Warenne |
Priod | Margaret of Taranto |
Llinach | House of Balliol |
Daeth Dafydd II i'r orsedd ym 1329 ar ôl marwolaeth ei dad, Robert I. Dim ond pum mlwydd oed oedd Dafydd, a llywodraethwyd yr Alban gan raglywiaid am gyfnod. Manteisiodd Balliol, gyda chefnogaeth Edward III, brenin Lloegr, ar y sefyllfa, gan drechu lluoedd Dafydd ym Mrwydr Dupplin Moor (10–11 Awst 1332). Fe'i coronwyd yn Scone ar 24 Medi 1332, ond ar ôl Brwydr Annan (16 Rhagfyr 1332), gorfodwyd ef i ffoi i Loegr. Ymunodd Edward III ag ef mewn gwarchae ar Gaerferwig (yn nwylo'r Albanwyr ar y pryd). Ar ôl Brwydr Halidon Hill (19 Gorffennaf 1333) dychwelwyd Balliol i rym gan y Saeson. Yn ei dro rhoddodd Balliol ran fawr o dde'r Alban i Edward a thalu gwrogaeth iddo.
Yn raddol enillodd lluoedd a oedd yn deyrngar i Dafydd II reolaeth ar y wlad, a rhyfeloedd rhwng Lloegr a Ffrainc yn cymryd sylw Edward III fwyfwy, daeth sefyllfa Balliol yn yr Alban yn anghynaladwy. Roedd Brwydr Culbean (30 Tachwedd 1335) yn anffawd arbennig. Ar ôl 1338 treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn Lloegr. Erbyn 1341 dychwelodd Dafydd II o'i alltudiaeth yn Ffrainc i adennill ei orsedd. Ildiodd Balliol ei hawliad i goron yr Alban i Edward III o'r diwedd ar 20 Ionawr 1356; yn gyfnewid derbyniodd bensiwn. Bu farw yn Wheatley, Doncaster, Swydd Efrog, ym 1367.