Brwydr Glenshiel
Mae Brwydr Glenshiel (10 Mehefin 1719) yn nodi diwedd gwrthryfel y Jacobitiaid o 1719. Ymladdwyd y frwydr yn Glen Sheil yng ngorllewin Ucheldiroedd yr Alban, rhwng byddin y llywodraeth Brydeinig dan y Cadfridog Joseph Wightman a byddin Jacobitaidd dan yr Arglwydd George Murray, oedd yn cael ei chynorthwyo gan fyddin Sbaenaidd fechan. Ymhilth arweinwyr eraill y Jaconitaid, roedd yr enwog Rob Roy MacGregor.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 10 Mehefin 1719 |
Rhan o | Gwrthryfel y Jacobiaid ym 1719 |
Lleoliad | Glen Shiel |
Gwladwriaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Rhanbarth | Cyngor yr Ucheldir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y niferoedd ar y ddwy ochr fwy neu lai yn gyfartal, tua 1,000 yr un. Roedd y Jacobitiaid mewn safle amddiffynnol gref yn Glen Sheil, ychydig o filltiroedd o Loch Duich. Ymosododd byddin y llywodraeth, ac ar ôl tua thair awr o frwydro, gorfodwyd y Jacobitiaid i ildio neu ffoi. Clwyfwyd yr Aglwydd George Murray a Rob Roy MacGregor yn ddifrifol. Lladdwyd tua 100 o Jacobitiaid a 21 o filwyr y llywodraeth. Daeth y gwrthryfel i ben yn fuan wedyn.