Teyrnas Prydain Fawr
Roedd Teyrnas Prydain Fawr (a elwir weithiau, ond yn anghywir, yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr), yn wladwriaeth yng Ngorllewin Ewrop, a fodolai o 1707 hyd 1800. Cafodd ei chreu trwy uniad Teyrnas yr Alban a Theyrnas Lloegr, dan Ddeddfa Uno 1707, i greu teyrnas unigol yn cynnwys Prydain Fawr i gyd (Lloegr, Cymru a'r Alban heddiw). Addaswyd senedd Lloegr i greu senedd newydd, Senedd Prydain Fawr ym Mhalas San Steffan, Llundain, gyda llywodraeth newydd seiliedig ar hen lywodraeth Lloegr, i'w rheoli. Paratowyd y tir ar gyfer yr uniad gan y ffaith fod teyrnasoedd yr Alban a Lloegr (a oedd yn cynnwys Cymru at bwrpasau deddfwriaethol) wedi rhannu'r un teyrn ers i Iago VI, Brenin yr Alban, ddod yn frenin Lloegr yn 1603.
Delwedd:Coat of Arms of Great Britain (1707-1714).svg, Coat of Arms of Great Britain in Scotland (1707-1714).svg, Coat of arms of Great Britain (1714–1801).svg, Coat of Arms of Great Britain in Scotland (1714-1801).svg | |
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Llundain |
Poblogaeth | 10,500,000, 9,250,000 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | God Save the King |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Ewrop |
Gwlad | Teyrnas Prydain Fawr |
Arwynebedd | 230,977 km² |
Cyfesurynnau | 51.5°N 0.13°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Prydain Fawr |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Prydain Fawr |
Pennaeth y wladwriaeth | Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig |
Arian | punt sterling |
Cymerodd Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon le Teyrnas Prydain Fawr yn 1801 pan lyncwyd Teyrnas Iwerddon gan Ddeddf Uno 1800 ar ôl methiant y Gwrthryfel Gwyddelig yn 1798.
Llywodraeth
golyguBrenhinoedd a breninesau
golygu- Anne, brenhines Prydain Fawr (1707–1714)
- Siôr I, brenin Prydain Fawr (1714–1727)
- Siôr II, brenin Prydain Fawr (1727–1760)
- Siôr III, brenin Prydain Fawr (1760–1801)
Am fod tri brenin o'r enw Siôr yn rheoli, cyfeirir at gyfnod eu teyrnasiad fel y "Cyfnod Sioraidd."
Prif Weinidogion
golygu- Robert Walpole (1721–1742)
- William Pitt yr Ieuengaf (1783-1810)