Brwydr La Rochelle
Ymladdwyd Brwydr La Rochelle ar y môr gerllaw porthladd La Rochelle (Charente-Maritime) ar arfordir gorllewinol Ffrainc ar 22 Mehefin 1372. Roedd yn un o frwydrau y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr. Gorchfygwyd y llynges Seisnig gan lynges o Castilla a Ffrainc.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr fôr |
---|---|
Dyddiad | 23 Mehefin 1372 |
Rhan o | y Rhyfel Can Mlynedd |
Lleoliad | La Rochelle |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Roedd y Saeson yn meddiannu dinas La Rochelle, ond roedd y Ffrancwyr yn gwarchae arni. Gyrrwyd llynges Castilla, dan Ambrosio Bocanegra o Genova, i ymosod ar La Rochelle a'r llynges Seisnig, oedd dan John Hastings, Iarll Penfro.
Cafodd Bocanegra fuddugoliaeth ysgubol; cymerwyd Hastings ei hun yn garcharor, ynghyd â 400 o farchogion ac 8,000 o filwyr. Rhoddodd hyn y llaw uchaf ar y môr i Ffrainc, am y tro cyntaf ers Brwydr Sluys yn 1340.
Yn y cyfnod cyn y frwydr, roedd Owain Lawgoch wedi hwylio am Gymru i geisio hawlio ei etifeddiaeth fel Tywysog Cymru. Roedd yn ymladd ar Ynys y Garn pan gafodd orchymyn gan Siarl V, brenin Ffrainc i hwylio i Castilia i gasglu llongau. Roedd Owain ei hun yn dal yn Sbaen pan ymladdwyd y frwydr.