La Rochelle
Dinas a phorthladd ar arfordir gorllewinol Ffrainc yw La Rochelle. Hi yw prifddinas departement Charente-Maritime. Gerllaw mae'r Île de Ré, a gysylltir a'r ddinas gan bont a adeiladwyd yn 1988. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 78,000.
| |
![]() | |
Math |
cymuned, dinas â phorthladd, dinas ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
75,735 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Maxime Bono ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Charente-Maritime ![]() |
Sir |
Charente-Maritime, arrondissement of La Rochelle ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
28.43 km² ![]() |
Uwch y môr |
4 metr ![]() |
Yn ffinio gyda |
Aytré, L'Houmeau, Lagord, Périgny, Puilboreau, Rivedoux-Plage ![]() |
Cyfesurynnau |
46.1594°N 1.1514°W ![]() |
Cod post |
17000 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Maer La Rochelle ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Maxime Bono ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd La Rochelle yn ystod y 10g, a daeth yn harbwr pwysog o'r 12g. Yn 1137, gwnaeth Guillaume X, Dug Aquitaine y ddinas yn borthladd rhydd. Hyd y 15g, La Rochelle oedd y porthladd mwyaf ar arfordir gorllewinol Ffrainc.
Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, ymladdwyd Brwydr La Rochelle ar 22 Mehefin 1372. Gorchfygwyd llynges Seisnig gan lynges Ffrainc a Castille, gan ennill rheolaeth ar y môr i Ffrainc. Yn ddiweddarach, daeth La Rochelle yn ganolfan i'r Huguenotiaid o 1568 ymlaen. Gwarchaewyd arni yn 1572-1573 ac eto ym 1627-1628. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd gan yr Almaenwyr ganolfan llongau tanfor yma. La Rochelle oedd y ddinas olaf yn Ffrainc i'r rhyddhau o'u gafael, ar 8 Mai 1945.