Ymladdwyd Brwydr Wakefield yn Sandal Magna ger Wakefield, yng Ngorllewin Swydd Efrog yng Ngogledd Lloegr ar 30 Rhagfyr 1460. Roedd yn un o frwydrau pwysicaf Rhyfel y Rhosynnau.[1] Ar y naill law roedd uchelwyr Lancastraidd a oedd yn deyrngar i Harri VI, brenin Lloegr ac ar y llaw arall roedd byddin Rhisiart Plantagenet, 3ydd dug Efrog. Lladdwyd Rhisiart a chwalwyd ei fyddin.

Brwydr Wakefield
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad30 Rhagfyr 1460 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfeloedd y Rhosynnau Edit this on Wikidata
LleoliadWakefield Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map yn dangos y prif frwydrau
Wakefield
St. Albans
Ludford Bridge
Mortimer's Cross
Northampton
Llundain
Harlech
Kingston upon Hull
Berwick upon Tweed
Worksop
Efrog
Calais
Coventry
Caer
Lleolir:
– Brwydr Wakefield; – brwydrau eraill;
– mannau eraill

Cefndir golygu

Roedd y frydr hon yn dilyn Brwydr Blore Heath, 23 Medi 1459 a Brwydr Northampton, 10 Gorffennaf 1460 pan laddwyd Siôn Talbot, ail iarll Amwythig ac un o noddwyr Guto'r Glyn.

Gyda Richard, dug Iorc yn ôl yn Lloegr yn Hydref 1460 i hawlio'r Goron unwaith eto, cytunwyd y câi Harri VI barhau'n frenin am weddill ei oes; wedi ei farwolaeth, Richard fyddai'r brenin nesaf. Tybiai llawer y byddai hyn yn dod â'r rhyfeloedd i ben; fodd bynnag, ni chytunodd y Frenhines Marged o Anjou, gan y byddai hyn yn dietifeddu ei mab, Edward o Lancastr.

Y frwydr golygu

Hefyd yn bresennol, wrth ochr y brenin roedd ei wraig y frenhines Marged o Anjou a'u mab saith oed: Edward of Westminster, Tywysog Cymru.

Richard oedd un o uchelwyr cyfoethocaf Lloegr ac roedd ganddo diroedd ym mhobman,[2] ac roedd yn ddisgynnydd (ar y ddwy ochr) i Edward III, a mynnai nifer o bobl dylanwadol y dylai gael ei ddyrchafu'n frenin yn lle Harri VI a oedd yn ddi-blentyn.[3] Un o deulu Beaufort oedd ei wrthwynebydd, Somerset.

Honnodd un cofnodydd a fu'n fyw ychydig o flynyddoedd wedi'r frwydr, Gregory's Chronicle, i 2,500 o Iorciaid farw a 200 o Lancastriaid. Ond mae ffynonellau eraill yn dra gwahanol yn honni i rhwng 700 a 2,200 o Iorciaid farw. Wedi'r frwydr hon, ym mhob brwydr yn Rhyfel y Rhosynnau, fe ddaeth yn arferiad i'r fyddin lwyddiannus ddileu pob un copa walltog o'r fyddin anfuddugol, gan greu'r ysfa am ddialedd yn beth melys a chwerw.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Hanes Cymru gan John Davies; Cyhoeddiad Penguin (1990); tud 206.
  2. Rowse, p.109
  3. Seward, p.35
  4. Hicks, Michael (2012). The Wars of the Roses. Yale University Press. t. 160.

Llyfryddiaeth golygu

  • H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)
  • David Rees, The Son of Prophecy (argraffiad newydd, Rhuthun, 1997)
  • Rowse, A.L. (1966). Bosworth Field & the Wars of the Roses. Wordsworth Military Library. ISBN 1-85326-691-4.