Rhyfeloedd y Rhosynnau

(Ailgyfeiriad o Rhyfel y Rhosynnau)

Roedd Rhyfeloedd y Rhosynnau (Rhyfel y Rhos, yn ôl yr hanesydd John Davies[1]) yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o dros 30 mlynedd (1455 i 1485) rhwng cefnogwyr Teulu'r Lancastriaid a Theulu'r Iorciaid. Fe'i gelwir yn "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod y rhosyn coch yn cynrychioli Lancaster a'r rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd Coron Lloegr. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt. Er y gelwir y cyfnod hwn yn "Rhyfeloedd y Rhosynnau", ychydig o ymladd a fu mewn gwirionedd - tua 13 wythnos i gyd gyda chyfanswm o 12 brwydr.

Rhyfeloedd y Rhosynnau
Enghraifft o'r canlynolrhyfel Edit this on Wikidata
Dyddiad15 g Edit this on Wikidata
Dechreuwyd22 Mai 1455 Edit this on Wikidata
Daeth i ben16 Mehefin 1487 Edit this on Wikidata
LleoliadTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl John Davies, y pwysicaf o'r brwydrau a ymladdwyd oedd Brwydr Wakefield (1460) lle lladdwyd dug York, Brwydr Mortimer's Cross (1461) (brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry, mewn gwirionedd) gan i'w fab ddyrchafu ei hun yn Edward IV, Brwydr Banbury (1469) a arweiniodd at ailorseddu Harri VI a Brwydr Tewkesbury (1471) oedd yn allweddol i ailorseddu Edward IV, ac wrth gwrs Brwydr Bosworth.

Uchafbwynt y rhyfeloedd hyn oedd buddugoliaeth Harri Tudur (a ddaeth yn Harri VII) ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri y brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan agor cyfnod y Tuduriaid.

Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru golygu

 
Rhosyn Swydd Gaerhirfryn
 
Rhosyn Swydd Efrog

Er na fu brwydrau o bwys yng Nghymru, yr oedd Cymru'n ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau Iarll Penfro, Siaspar Tudur dros y Lancastriaid a William Herbert dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr Rhys ap Thomas ran bwysig mewn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn brwydr Bosworth. Tueddai'r rhan fwyaf o'r Cymry i ochri â phlaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid, ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Roedd Guto'r Glyn er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid a bu'n fyw drwy gyfnod y rhyfeloedd.[2] Ym Mrwydr Mortimer's Cross yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd Owain Tudur. Bu farw Tywysog Cymru, Edward o San Steffan, ym Mrwydr Tewkesbury ar 4 Mai 1471.

Brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry oedd Brwydr Mortimer's Cross (1461), ac roedd treuan milwyr Harri yn Gymry yn ôl John Davies.[1] Galwodd y bardd Lewis Glyn Cothi frwydr Banbury yn 'drychineb cenedlaethol' gan i gymaint o Gymry farw ynddi. Gwelodd Carnhuanawc dristwch yn y sefyllfa wedi gwaed Cymry'n cael ei golli dros goron Lloger yn hytrach na thros 'eu breintiau cynhenid fel trigolion Cymru'. ond yn gyffredinol, chwiliai'r beir am genedlaethau am arweinydd Cymreig newydd: yn y 1450au, Siasbar Tudur oedd eu harwr, yn y 1460au, oherwydd ei berthynas â Llywelyn Fawr, Edward IV, brenin Lloegr oedd hwnnw. Edrychid ar Herbert hefyd fel un o'r arwyr, ac wedi iddo gael ei ddienyddio trodd y Cymry'n derfysglyd iawn. Er mwyn llenwi'r bwlch arwisgwyd mab y brenin â'r 'Dywysogaeth' yn 1471. Ond roedd gan y Cymry a gefnogai plaid Iorc obeithion tebyg ar gyfer Edward IV a allai olrhain ei linach, fel Harri Tudur, yn ôl i dywysogion Cymru.

Yn Aberhonddu y cododd dug Buckingham faner gwrthryfel, o bosib, i hybu achos Harri Tudur, a oedd yn Llydaw, ond ni chafodd gefnogaeth y Cymry, ac o fewn mis fe'i dienyddiwyd. William Stanley oedd gŵr grymusaf gogledd Cymru a Rhys ap Thomas (ŵyr Gruffudd ap Nicolas a Lancastriaid o fri) yn y De.

Teyrngarwch y Cymry golygu

Iorciaid golygu

Roedd iarllaeth Marcha Morgannwg, eiddo eu prif gefnogwr Richard Neville, 16ed Iarll Warwick yn derngar i blaid yr Iorc. Cefnogwyr: William Herbert (a gweddill Herbertiaid Rhaglan), Guto'r Glyn, Rhisiart III, brenin Lloegr (1452 – 1485), Anne Neville (1456 – 1485), Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, Fychaniaid Tretŵr, Ralph de Mortimer (m. 1246), Syr Rosier Cinast ap Gruffudd o'r Cnwcin a'r Plantagenet.

Roedd gan y Cymry a gefnogai plaid Iorc obeithion mawr ar gyfer Edward IV, brenin Lloegr, a allai olrhain ei linach, fel Harri Tudur, yn ôl i dywysogion Cymru. Disgynnai Anne Mortimer, mam Richard, dug Iorc a nain Edward IV a Rhisiart III, o Wladus Ddu ferch Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a briododd Ralph Mortimer (m. 1246). Cyfeiria Guto'r Glyn at hyn sawl gwaith yn ei gerdd, gan annog Edward IV i adfer trefn yng Nghymru a chan alw’r brenin yn 'darw mawr' o'r Mortmeriaid:

Tarw fydd, llid torfoedd llydain, 
Tro dy nerth at ryw dy nain! 
O frenin costwin Castil 
A Gwladus Du galw dy stil.

Cofiai'r Cymry, hefyd, fod sawl un o'r Mortimeriaid wedi cefnogi gwrthryfel Owain Glyn Dŵr.

Lancastriaid golygu

Roedd y Dywysogaeth ac arglwyddiaeth Siasbar Tudur ym Mhenfro yn derngar i blaid Lancastr; Siasbar oedd prif arweinydd y Lancastriaid yng Nghymru. Cefnogwyr: y Tuduriaid, Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais (1449 – 1525), Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral, Siôn Hanmer ap Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai, Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol a Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun, Gruffudd ap Nicolas, Margaret Beaufort, Catrin o Valois, John o Gaunt (1340-1399; mab Edward III, brenin Lloegr) Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby (1435 – 1504), Teulu'r Beaufort a Harri IV, V a VI o Loegr.

Canodd rhai o feirdd y cyfnod, ee Dafydd Llwyd, gerddi darogan yn awgrymu mai Harri Tudur oedd y Mab Darogan a fyddai'n dod i wireddu gobeithion y Cymry fel cenedl.

Brwydrau pwysicaf Rhyfeloedd y Rhosynnau golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Hanes Cymru; cyhoeddiad Penguin; 2009; tud 206)
  2. gutorglyn.net; adalwyd 4 Chwefror 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.