Ysmotyn neu smotiau melynllwyd ar y croen ydy brych, ('brychni' ydy'r lluosog); ceir ystyr arall i'r gair, sef amwisg buwch neu gaseg newydd ei eni. Clystyrau bychan o felanin ydyw mewn gwirionedd. 'Brycheuyn', neu 'gwall' ydy ei ystyr yn yr hen Frythoneg 'bricca' ac fe'i ceir gyntaf yn y Gymraeg yn y Beibl, yn 1300, Tynn y brychewyn oth lygat dy hyn yn gyntaf.

Brych
Enghraifft o'r canlynolsymptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathhyperpigmentation of the skin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brychni haul ar wyneb plentyn.

Mae brychni haul yn cael ei basio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth, oherwydd y genyn dominant genemelanocortin-1, yn benodol: melanocortin (MC1R). Yr haul sy'n symbylu'r tyfiant, fel y sylweddolodd yr hen Gymru drwy roi'r enw 'brychni haul' arnynt. Mae pelydrau'r haul (yr uwchfioled, yn benodol) yn ysbrydoli'r melanoseits i gynhyrchu melanin, sy'n cynyddu eu maint a thywyllu eu lliw.

Ar yr wyneb a'r fraich y maen nhw fel arfer, fel y gwelwn o'r lluniau. Ond, pan fo rhannau eraill o'r corff yn llygad yr haul, gallent lewyrchu yno hefyd. Anamal iawn rydym yn eu gweld ar fabis bach. Fel arfer ar blant oed llencyndod maen nhw'n tyfu.