Bryn Evans

Chwaraewr rygbi'r undeb i Gymru

Roedd Daniel Brinley 'Bryn' Evans (16 Ionawr 190229 Ebrill 1970) yn fewnwr i rygbi undeb rhyngwladol Cymru a chwaraeodd i Gymru ac i Abertawe.

Bryn Evans
Enw llawn Daniel Brinley Evans
Dyddiad geni (1902-01-16)16 Ionawr 1902
Man geni Penclawdd
Dyddiad marw 29 Ebrill 1970(1970-04-29) (68 oed)
Lle marw Penclawdd
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Mewnwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
Clwb Rygbi Penclawd
Clwb Rygbi Abertawe
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1933 Cymru[1] 1 (0)

Gyrfa Rygbi golygu

Yn wreiddiol, chwaraeodd Evans rygbi ar gyfer clwb is Penclawdd, a bu'n gapten i'r tim uwch yn ystod tymor 1929/30,[2] cyn iddo symud ac ymuno â thîm arbennig Abertawe.

Chwaraeodd Evans un gêm yn unig i Gymru, sef yn erbyn yr Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Gwledydd Cartref 1933. Roedd Cymru newydd ddychwelyd ar ôl buddugoliaeth hanesyddol dros Loegr yng  ngêm agoriadol y gystadleuaeth, pan enillodd y tîm yn Twickenham am y tro cyntaf. Roedd gobeithion Cymreig yn uchel ar gyfer yr ail gêm a oedd yn erbyn yr Alban yn St Helens, cae cartref Abertawe. Roedd y detholwyr am gadw'r un tîm a oedd wedi curo'r Saeson, ond roedd Maurice Turnbull wedi ei anafu. Felly penderfynodd y detholwyr ollwng ei bartner, y dibynadwy Harry Bowcott i ganiatáu i bartneriaeth Abertawe o Evans a Ron Morris gymryd eu lle. Er fod y gem ar dir cartref ac yn erbyn tîm dibrofiad yr Alban, collodd Cymru o 11-3, a gollyngwyd Evans ar gyfer y gêm nesaf ac ni wnaeth gynrychioli ei wlad eto.

Gemau Rhyngwladol golygu

Cymru[3]

Llyfryddiaeth golygu

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. London: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. Welsh Rugby Union player profiles[dolen marw]
  2. Penclawdd RFC Archifwyd 2008-09-16 yn y Peiriant Wayback. Club history
  3. Smith (1980), pg 465.