Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru

Mae Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru yn gylchgrawn Cymraeg ei iaith sy'n cynnwys erthyglau a defnyddiau eraill ar gyfer astudio emynau, emyn-donau, emynwyr a chyfansoddwyr emyn-donau. Cyhoeddir hefyd emynau newydd ynddo o bryd i'w gilydd.

Sefydlwyd Cymdeithas Emynau Cymru yn 1967 i hyrwyddo diddordeb ym mhob agwedd ar ganu mawl yn y Gymraeg ac i hybu ymchwil yn y maes a chyhoeddi ffrwyth yr ymchwil honno. Cynhelir Darlith Flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Ysgol Undydd Flynyddol. Gomer Morgan Roberts oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn, ac fe'i dilynwyd yn 1978 gan E. Wyn James.

Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido yn rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.