Mynydd trawiadol 1271 m o uchder gyda chopa gwastad eang sy'n codi'n syrth o'r gwastadeddau amgylchynnol yng ngogledd-orllewin Tiwnisia yw Bwrdd Jugurtha (Arabeg: Jebel Jugurtha; Ffrangeg: Table de Jugurtha). Saif i'r de-orllewin o ddinas hynafol El Kef (Sicca Veneria yng nghyfnod y Rhufeiniaid) yn agos i'r ffin ag Algeria. Fe'i enwir ar ôl Jugurtha, brenin Numidia yn yr 2g CC.

Bwrdd Jugurtha
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEl Kef Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr1,271 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.7443°N 8.379°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddDorsal Tiwnisia Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion

Ymestynnai teyrnas Jugurtha i gynnwys rhai ardaloedd sydd yng ngogledd-orllewin Tiwnisia heddiw, gan gynnwys Sicca Veneria (El Kef) a rhannau uchaf yr Oued Medjerda. Dywedir bod Jugurtha wedi defnyddio'r mynydd fel caer a noddfa yn ei ryfel saith mlynedd yn erbyn y Rhufeinaid (112-105 CC). Mae ei muriau syrth yn amddiffynwaith naturiol. Yr unig ffordd i gyrraedd y copa heb ddringo yw ar hyd llwybr troellog sy'n gorffen mewn cyfres o risiau wedi'u torri yn y graig.

Golygfa ar Fwrdd Jugurtha o El Kef yn y gaeaf; mae'r mynydd ar y chwith ar y gorwel

Gellir cyrraedd y mynydd o bentref bychan Kalaat Khasba, ond mae'n llwybr garw ac mae'r pentref ei hun yn ddigon diarffordd. Man cychwyn arall yw tref Tajerouine.