Byd y Dyn Hysbys

(Ailgyfeiriad o Byd y dyn hysbys)

Testun y llyfr Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru (Y Lolfa 1977) gan Kate Bosse-Griffiths yw archwiliad o hanes y Dyn Hysbys yng Nghymru, yn bennaf ar sail hanes dau Ddyn Hysbys: John Harries, Cwrtycadno, a Dyn Hysbys dienw o Sir Ddinbych. Yn ogystal â hynny ceir trafodaeth ar ddewiniaeth o wahanol gyfnodau hanesyddol, yng Nghymru a thu hwnt, ac enghreifftiau o ymarferion, defodau a swynion.

Byd y Dyn Hysbys
Clawr Byd y Dyn Hysbys

Llyfr Cyfrin Sir Ddinbych golygu

Mae rhannau helaeth o'r llyfr yn edrych ar gynnwys Llyfr Cyfrin (sy'n debyg i Lyfr y Cysgodion yn Wica) o Sir Ddinbych. Ysgrifennwyd y Llyfr Cyfrin gan ddewin dienw oedd yn byw yn Sir Ddinbych yn y 19g gynnar. Casgliad o swynion yn Gymraeg a Saesneg ydyw, gyda'r defnydd yn amrywio o ddefodau i alw ar y Tylwyth Teg a swynion "dadreibio" Cymreig i ddefnydd Hermetig, defodau Enochaidd, daeargoel ac astroleg. Mae copi ar gael ar gais yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]

Cynnwys golygu

I Rhagarweiniad: Y Lle Cynefin td 7

II Y Dyn Hysbys td 15

III Llyfr Cyfrin Y Dyn Hysbys td 38

IV Swyn a Llun td 51

V Iachau Swyngyfareddol td 68

VI Darogan td 82

VII Dirgelion td 94

VIII Y Gelfyddyd Ddu td 102

IX Y Tylwyth Teg td 116

Llyfryddiaeth td 135

Mynegai td 139

Rhestr Lluniau td 143

Cyfeiriadau golygu