John Harries

Dewin, neu Ddyn Hysbys oedd y 'Doctor' John Harries (178511 Mai 1839),[1] Cwrt-y-cadno, a ddaeth yn adnabyddus trwy Gymru ar ddiwedd y 18g a dechrau'r ganrif olynol. Gallai wella afiechydon o bob math, tawelu ysbrydion drwg a darogan y dyfodol. Credid fod ganddo lyfr o swynion.[2]

John Harries
Ganwyd1785 Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mai 1839, 1839 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethastroleg Edit this on Wikidata
PlantHenry Harries Edit this on Wikidata
'Llyfr Cyfrin' John Harries

HanesGolygu

Brodor o bentref bychan Cwrt-y-cadno, ym mhlwyf Caio, Sir Gaerfyrddin oedd John Harries. Cafodd ei eni yno yn 1785. Dywedir y bu ei fab Henry yn ddewin hefyd, a astudiodd dan ddewin arall o'r enw 'Raphael' yn Llundain cyn dychwelyd i Gwrt-y-cadno i weithio gyda'i dad; ymddengys felly fod traddodiad teuluol o fod yn ddewiniaid.[3]

Roedd Harries yn ddyn dysgedig a ganddo lyfrgell sylweddol a oedd yn cynnwys llyfrau Groeg, Lladin Saesneg a Ffrangeg. Roedd ganddo sawl llawysgrif yn cynnwys un yn ei ysgrifen ei hun o dros bum cant o gyfarwyddiadau meddygol traddodiadol (fe'i ceir heddiw fel 'Llawysgrif Cwrtmawr MS 97A' yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru).[4][5]

Credai pobl yr ardal fod gan John Harries lyfr o swynion o ryw fath, neu 'Lyfr Cyfrin', a chredai rhai y byddai yn ei ymgynghori unwaith bob blwyddyn pan adnewyddai ei gontract gyda'r Diawl. Dywedid y byddai Harries a rhai o'i gyfeillion yn mynd i goedwig a thynnu cylch yn y ddaear a darllen swynion o'r 'Llyfr Cyfrin'.[6]

Ymosododd crefyddwyr y cyfnod yn dost ar Harries a Dynion Hysbys eraill. Un o feirniaid ffyrnicaf Harries ei hun oedd yr eglwyswr David Owen (Brutus). Dyma sydd ganddo i'w ddweud am y Llyfr Cyfrin enwog:

Gyda golwg ar y llyfr rhyfeddol hwn, dywedir mai ystyllod trwchus ydyw ei gloriau, ac amdano gadwyn haiarn, a thri chlo egwyd. Dyweda eraill mai gwden sydd am gloriau y llyfr rhyfedd hwn, ac un clo egwyd; ond cytunir fod yno lyfr o bwys mawr a cymaint ei faintioli â Bibl Eglwys; a'i fod wedi ei rwymo â chadwyn haiarn neu brad a chlo arni.[7]

Bu farw John Harries yn 1839 yn 54 oed. Yn ôl yr hanes, roedd wedi rhagweld diwrnod ei farwolaeth ei hun ac felly arhosodd yn y gwely i geisio osgoi ei ffawd, ond aeth y tŷ ar dân a llosgwyd Harries i farwolaeth. Dywedir fod y dynion a gariodd ei arch i'r fynwent wedi teimlo'r baich yn ysgafnhau wrth iddynt nesáu at yr eglwys "nes mynd mor ysgafn ag arch wag": bernid mai'r rheswm oedd bod y Diawl wedi meddiannu'r corff fel roedd eisoes wedi gwneud gyda'r enaid.[8]

EtifeddiaethGolygu

Ceir sawl llawysgrif gan John Harries yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnwys cyfarwyddiadau meddygol traddodiadol a swynion, a chopi o ddaroganau 'Nostradamus' a llyfrau printiedig eraill, ond does dim sôn am ei 'Lyfr Cyfrin' enwog.

Yn 1988, ffilmiwyd y ddrama ddogfen Dilyn y Ddraig. Dewin Cwrt-Y-Cadno gan BBC Cymru ar gyfer S4C. Mae copi fideo ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gais.[9]

CyfeiriadauGolygu

  1. Isaac Evans, Coelion Cymru (Aberystwyth, 1938), tud. 136.
  2. Kate Bosse Griffiths, Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977), tt. 38-43.
  3. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.e. Harries, John.
  4. Isaac Evans. Coelion Cymru (Aberystwyth, 1938), tud. 136.
  5. https://www.llgc.org.uk/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/ymweld_a_ni/darllen_yn_llgc/dar_taf_llawysgrifau_150330D.pdf
  6. Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977), tud. 40.
  7. Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977), tud. 39.
  8. Coelion Cymru, tud. 135.
  9. LlGC: chwiler 'Dilyn y Ddraig'

LlyfryddiaethGolygu

  • J. H. Davies, Rhai o Hen Ddewiniaid Cymru (1901).
  • Kate Bosse Griffiths, Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977). Pennod: 'Llyfr Cyfrin y Dyn Hysbys'.

Gweler hefydGolygu