Byddin Pobl Fietnam
(Ailgyfeiriad oddi wrth Byddin Gogledd Fietnam)
Lluoedd arfog Fietnam yw Byddin Pobl Fietnam (Fietnameg: Quân Đội Nhân Dân Việt Nam). Mae'n cynnwys Lluoedd Tir Pobl Fietnam (gan gynnwys yr Ôl-luoedd Strategol a Lluoedd Amddiffyn y Goror), Llynges Pobl Fietnam (gan gynnwys Corfflu'r Môr-filwyr), Awyrlu Pobl Fietnam, ac Heddlu Morol Fietnam.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Lluoedd arfog ![]() |
Rhan o | Byddin Pobl Fietnam ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 22 Rhagfyr 1944 ![]() |
Gweithwyr | 484,000 ![]() |
Pencadlys | Hanoi ![]() |
Gwladwriaeth | Fietnam, Gogledd Fietnam ![]() |
![]() |
Yn ystod Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina, cyfeiriwyd at Fyddin Pobl Fietnam yn aml fel y Việt Minh. Yn ystod Rhyfel Fietnam, galwyd weithiau yn Fyddin Gogledd Fietnam er mwyn gwahaniaethu o luoedd y Viet Cong yn Ne Fietnam, er yr oedd y Viet Cong yn rhan o strwythur Byddin y Gogledd.