Hanoi
Hanoi (Fietnameg: Hà Nội) yw prifddinas Fietnam. Roedd y boblogaeth yn 3,398,889 yn 2007.
Math | bwrdeistref Fietnam, dinas fawr |
---|---|
Prifddinas | Ba Đình |
Poblogaeth | 8,435,650 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Trần Sỹ Thanh |
Cylchfa amser | Amser Indochina, UTC+07:00 |
Gefeilldref/i | Jakarta, Ankara, Bangkok, Budapest District XVI, Beijing, Warsaw, Victoria, Seychelles, Fukuoka, Seoul, Montréal, Astana, Palermo, Kyiv, Île-de-France, Toulouse, Indre-et-Loire, Phnom Penh, Seychelles, Yokohama |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Fietnameg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Fietnam |
Gwlad | Fietnam |
Arwynebedd | 3,359.84 km² |
Uwch y môr | 16 metr |
Gerllaw | Afon Red |
Yn ffinio gyda | Vĩnh Phúc, Thái Nguyên, Hà Nam, Hòa Bình, Bắc Giang, Bắc Ninh, Hưng Yên, Phú Thọ |
Cyfesurynnau | 21.0245°N 105.84117°E |
Cod post | 10000–10999, 11000–11999, 12000–12999, 13000–13999, 14000–14999 |
VN-HN | |
Pennaeth y Llywodraeth | Trần Sỹ Thanh |
Sefydlwydwyd gan | Ly Thai To |
Sefydlwyd Caer Co Loa yma tua 200 CC. Pan oedd Fietnam ym meddiant Tsieina, adnabyddid Hanoi fel Tống Bình ac yna Long Đỗ. Yn 866, gwnaed yr anheddfa yn gaer dan yr enw Đại La. Yn 1010, symudodd Lý Thái Tổ, rheolwr cyntaf Brenhinllin Ly, brifddinas Đại Việt fel y gelwid y wlad yr adeg honno, i Đại La, a'i hail-enwi yn Thăng Long ("Draig yn esgyn").
O 1010 hyd 1802, heblaw am ambell gyfnod, Hanoi oedd canolfan wleidyddol y Fietnam annibynnol. Yng nghyfnod Brenhinllin Nguyen, daeth dinas Huế yn bwysicach na Hanoi, ond daeth yn brifddinas eto pan ddaeth y wlad yn rhan o Ymerodraeth Ffrainc. O 1954 hyd 1976, roedd yn bridffinas Gogledd Fietnam, yna ar derfyn Rhyfel Fietnam daeth yn brifddinas Fietnam unedig.