Mae Bywnans Ke (neu Bewnans Ke) yn ddrama fucheddol gynnar yn yr iaith Gernyweg a ysgrifennwyd tua 1500.

Bywnans Ke
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCernyweg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1575 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyfrol 2007 mewn Cernyweg Diwygiedig Unedig gan yr Athro Nicholas Williams a Graham Thomas.

Mae'r llawysgrif hynod yn enghraifft brin o ddrama mewn Cernyweg Canol sy'n adrodd hanes gwrthdaro rhwng Sant Ke (Cai yn Gymraeg), nawddsant plwyf Kea yng Nghernyw, a Teudur, teyrn lleol. Yn ogystal mae darn hir o'r llawysgrif yn ymwneud â'r Brenin Arthur, godineb y Frenhines Gwenhwyfar â nai Arthur, Medrod, a brwydr Arthur â Medrod.

Mae'r ddrama yn gyfraniad pwysig i iaith a llenyddiaeth Cernyweg Canol yn ogystal â bwrw golwg ar gwlt Sant Cai yng Nghernyw.

Cyhoeddwyd dwy fersiwn o'r ddrama bwysig hon. Y naill gan Dr Ken George ar ran Bwrdd yr Iaith Gernyweg yn 2006 yn dilyn orgraff Kernewek Kemmyn (Cernyweg Cyffredin) a'r llall yn 2007 gan Wasg Prifysgol Caerwysg (Exeter) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan yr Athro Nicholas Williams (sefydlydd orgraff Cernyweg Diwygiedig Unedig, United Revised Cornish) a Graham Thomas.[1]

Mae Bewnans Ke (yn yr orgraff CDU) neu Bywnans Ke (Kernewek Kemmyn) yn ddrama bwysig i'r iaith Gernyweg ac yn un o ddwy ddrama Gernyweg Canol sydd yn rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Y llall yw Beunans Mesiarek.

Canfuwyd Bewnans Ke yn rhan o gasgliad y diweddar Athro Emeritws J. E. Caerwyn Williams yn 2000. Mae'r ddrama yn ychwanegiad bwysig i gorff yr iaith Gernyweg yn ogystal ag i lenyddiaeth yr iaith.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
 
Bywnans Ke, Llyfrgell Genedlaethol Cymru MS 23849D f. 1r