John Ellis Caerwyn Williams
Ysgolhaig ac awdur o Gymro oedd yr Athro Emeritws John Ellis Caerwyn Williams (17 Ionawr 1912 – 8 Mehefin 1999).[1]
John Ellis Caerwyn Williams | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ionawr 1912 Gwauncaegurwen |
Bu farw | 10 Mehefin 1999 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | person dysgedig |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Derek Allen Prize |
Ganed ef ym mhentref Gwauncaegurwen yn Nyffryn Aman, yn fab i löwr. Aeth i Brifysgol Bangor, lle graddiodd mewn Cymraeg a Lladin, ac yna bu'n gwneud gwaith ymchwil yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.
Dychwelodd i Gymru yn 1941, ac astudiodd Roeg yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth, gan raddio'n BD yn 1944. Yn 1945, penodwyd ef yn ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Yn fuan wedyn, bu yn Ysbyty Llangwyfan am ddwy flynedd yn dioddef o'r diciâu. Yn 1953, daeth yn Athro Cymraeg ym Mangor, ac yn ddiweddarach yn Athro Gwyddeleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle bu hyd ei ymddeoliad.
Daeth yn olygydd y Traethodydd yn 1965, ac yn olygydd cyntaf Studia Celtica yn 1966. Roedd yn Olygydd Ymgynghorol i Eiriadur Prifysgol Cymru.
Cyhoeddiadau
golygu- Traddodiad llenyddol Iwerddon (Gwasg Prifysgol Cymru, 1958)
- Aderyn y gwirionedd,a chwedlau eraill o Lydaw (Gwasg Gee, 1961)
- Llên a llafar Môn (golygydd) (Cyngor Gwlad Môn, 1963)
- Edward Jones, Maes-y-plwm (Gwasg Gee, 1962)
- The Court Poet in Medieval Ireland (1972)
- Y storîwr Gwyddeleg a'i chwedlau (Gwasg Prifysgol Cymru, 1972)
- Beirdd y Tywysogion (1973)
- The Poets of the Welsh Princes (1978)
- Geiriadurwyr y Gymraeg yng nghyfnod y Dadeni (Amgueddfa Werin Cymru, 1983)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Jenkins, Geraint H. (27 Medi 1999). Obituary:Professor JE Caerwyn Williams. The Guardian. Adalwyd ar 16 Ionawr 2014.