Càrlabhagh
Mae Càrlabhagh (Saesneg: Carloway) yn gymuned crofftio ar arfordir gorllewinol Leòdhas, Ynysoedd Allanol Heledd, yr Alban, gyda phoblogaeth o 500.[1]. Mae’r pentref ar y ffordd A858.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 58.27°N 6.77°W |
Denir twristiaid gan bentref tai duon Garenin a Broch Dun Carloway.[2] Mae ysgol gynradd, hostel ieuenctid, gorsaf yr heddlu, gwestai, bwytai, melin Tweed, meddygfa, canolfan comunedol, amgueddfa, 2 eglwys, cofeb ryfel, cae pêl-droed a chymdeithas hanes. Cynhelir Sioe Amaethyddol a Gemau’r Ucheldir bob mis Awst.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ manylion Carloway: cyhoeddwr: Scottish Places
- ↑ "Lewis, Dun Carloway; cyhoeddwr: Comisiwn Brenhinol ar Gofebion Hynafol a Hanesyddol yr Alban". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-14. Cyrchwyd 2021-06-07.