C.P.D. Bae Colwyn

clwb pêl-droed yng Nghymru

Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn yn glwb Pêl-droed, sy'n chwarae yng nghynghrair Cymru North. Maent yn chwarae ar Ffordd Llanelian, Hen Golwyn.

C.P.D. Bae Colwyn
Enw llawn Clwb Pêl-droed Bae Colwyn
Llysenw(au) Y Gwylanod
Sefydlwyd 1881
Maes Ffordd Llanelian
Cadeirydd Baner Cymru Neil Coverley
Rheolwr Baner Cymru Steve Evans
Cynghrair Cymru Premier

Hanes golygu

Chwaraeodd tîm yn cynrychioli Bae Colwyn eu gêm gyntaf yn Ionawr 1881. Ychydig a wyddir am hanes cynnar y Bae heblaw iddynt gystadlu yng Nghynghrair Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru o 1901 hyd y daeth y gystadleuaeth i ben yn 1921 pan ymunodd y rhan fwyaf o glybiau Cynghrair Cenedlaethol Cymru.

Yn 1984 penderfynodd y clwb i groesi'r ffin i chwarae yn Lloegr ac fe'i etholwyd yn aelod o Gynghrair y Bass North West Counties League.

Pan ffurfwyd Uwch Gynghrair Cymru fe ymgeisiodd y Cymdeithas Bêl-droed Cymru roi hwb i'r Gynghrair drwy orfodi fod pob Clwb Cymreig (Heblaw y tri clwb Proffesiynol) ymuno ag o. Gwrthododd Bae Colwyn, ymysg eraill, a rhaid oedd chwarae'u gemau 'cartref' yn Northwich ac Ellesmere Port. Ond ym Mis Ebrill 1995 fe enillwyd achos llys a olygodd eu bod yn cael dychwelyd i Ffordd Llanelian.

Fe gyrrhaeddodd y Clwb ail-rownd Cwpan FA Lloegr yn 1995-96 cyn colli o 2-0 yn erbyn Blackpool. Wnaethon nhw hefyd gyrraedd Rownd yr 8 olaf Tlws Lloegr yn 1996-97 cyn colli i Stevenage Borough.

Dychwelyd i Gymru golygu

Wedi 35 mlynedd yn chwarae yn Lloegr fe adawodd Bae Colwyn Adran Gyntaf y Gorllewin y Northern Premier i ymuno gyda cynghrair newydd Cymru North ar ddechrau tymor 2019-20.[1]

Bu'r cyfnod yn ôl yng Nghymru yn llwyddiannus i'r Bae gan weld tair gwaith mwy o gefnogwyr yn mynychu'r gemau a buddsoddi yn y maes. Enillodd y Bae ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2023-24 gan cael eu dyrchafu gan C.P.D. Tref Y Barri o'r de.[2] Yn sgîl dychwelyd i Gymru a'r llwyddiant, neu, efallai rheswm am y llwyddiant, bu i'r clwb fynd ati yn bwrpasol i Gymreigio ei hun gyda chyhoeddiadau dwyieithog ar y system sain a defnydd arall o'r Gymraeg a Chymreictod.[3]

Tîm rheoli golygu

Position Name
Rheolwr Steve Evans
Rheolwr Cynorthwyol Tommy Holmes
Hyfforddwr Danny Holmes
Ffisio Seb Richardson
Dadansoddwr Dan Skillen
Rheolwr Cit John Ashley

Cyfeiriadau golygu

  1. "Diwedd cyfnod i GPD Bae Colwyn wedi 35 mlynedd yn Lloegr". BBC Cymru Fyw. 26 Ebrill 2019.
  2. "Bae Colwyn a'r Barri yn 'hwb aruthrol i gynghrair Cymru'". =BBC Cymru Fyw. 29 Ebrill 2023.
  3. "Bae Colwyn: Y Gymraeg a chwaraewyr lleol yn bwysig". BBC Cymru Fyw. 9 Mai 2023.

Dolenni allanol golygu