Hen Golwyn

tref ym mwrdeistref sirol Conwy

Tref arfordirol fechan yng nghymuned Bae Colwyn, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Hen Golwyn[1] (Saesneg: Old Colwyn).[2] Gorwedd Parc Eirias a phencadlys Heddlu Gogledd Cymru rhwng y pentref a Bae Colwyn. Mae ganddo boblogaeth o 7,626 (Cyfrifiad 2001).

Hen Golwyn
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,113 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd393.75 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.291°N 3.704°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000134 Edit this on Wikidata
Cod OSSH864784 Edit this on Wikidata
Cod postLL29 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Golygfa ar ran o Hen Golwyn o'r traeth, dros draphont Rheilffordd Arfordir Cymru

Mae priffordd yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn gorwedd rhwng y pentref a'r môr. Rhed yr hen briffordd drwy ganol y pentref gan ei gysylltu â Bae Colwyn tua milltir i'r gorllewin a Llanddulas ac Abergele i'r dwyrain. Mae lôn yn arwain i fyny o ganol Hen Golwyn i gyfeiriad Llaneilian-yn-Rhos a bryniau Rhos i'r de.

Colwyn oedd enw gwreiddiol y pentref, a dim ond yn y 19g wrth i Fae Colwyn dyfu yn dref glan môr y daethpwyd i'w alw'n 'Hen Golwyn'. Dydy Hen Golwyn ddim yn arbennig o hen, felly! Tyfodd yn y 19g diolch i dwf Bae Colwyn ei hun ac fel pentref ar gyfer gweithwyr yn chwareli Llysfaen, gerllaw. Mae llawer o dai'r pentref yn rhai diweddar a godwyd ar gyfer pobl yn symud i ymddeol yn y rhan hon o ogledd Cymru, o ddinasoedd gogledd-orllewin Lloegr yn bennaf.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Hen Golwyn (pob oed) (8,113)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hen Golwyn) (1,719)
  
21.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hen Golwyn) (4901)
  
60.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Hen Golwyn) (1,440)
  
40.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Hen Golwyn yn 1941. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.