C.P.D. Bow Street

clwb pêl-droed, Bow Street

Lleolir CP Bow Street ym mhentref Rhydypennau ger Bow Street, Ceredigion. (Noder mai enw pentref yw Bow Street, nid stryd). Mae Rhydypennau a Bow Street bellach i bob pwrpas yn un pentref, tua 4 12 mile (7.2 km) i'r gogledd o Aberystwyth ar briffordd A487 i Machynlleth.

Bow Street
Enw llawnClwb Pêl-droed Bow Street
Bow Street Football Club
LlysenwauY Piod
MaesCae Piod, Rhydypennau
CadeiryddWyn Lewis
RheolwrBarry Williams
CynghrairAdran Gyntaf Cynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru
2016-2017Adran Gyntaf Cynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru, 10fed (o 15)
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Mae gan y clwb ddau dîm sy'n chwarae mewn adrannau pêl-droed lleol; y tîm cyntaf yn adran gyntaf Cynghrair Canolbarth Cymru, a'r eilyddion yn chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Cambrian Tyres Aberystwyth.

Mae gan y clwb nifer o dimau ieuenctid, gyda'u hoedrannau yn amrywio o 6 i 16 mlwydd oed, ac y mae gan y clwb hefyd ddau dîm merched sy'n cystadlu mewn cynghreiriau lleol.

Daw'r mwyafrif helaeth o aelodau'r timau o bentref Bow Street a'r ardaloedd cyfagos sy'n cynnwys Rhydypennau, Llandre a Dole

Llysenw golygu

Llysenw'r tîm yw Y Piod neu Magpies yn Saesneg, gan fod lliwiau swyddogol crys y clwb yn streipiau du a gwyn, yn debyg i grysau chwaraewyr Newcastle United.

Anrhydeddau golygu

  • Adran Gyntaf Cynghrair Pêl-droed Aberystwyth a'r Cylch (Aberystwyth Football League Division One)
    • 1992–93, 1994–95, 1995–96, 2001–02, 2002–03, 2003–04, 2006–07
  • Cwpan y Gynghrair
    • 1985–86, 1988–89, 1991–92, 1992–93, 1994–95
  • Cwpan J.Emrys Morgan
    • 1982–83, 1999–00, 2005–06

Carfan 2017 golygu

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

Rhif Safle Chwaraewr
  Toby Spain
  Andrew Carree
  Gwyn Jones
  Peter James
  Mikey Gornall
  Clint Middleton
  Darren Middleton
  Dean Evans
  Josh Shaw
  Philip Evans
  Nicky Smith
  Stephen Harrison
  Dafydd Davies
Rhif Safle Chwaraewr
  Mark Evans
  Owain James
  Justin Hinge
  Jason Rees
  Ian Evans
  Deian Thomas
  Dean Davies
  Danny Evans
  Paul Douglas Jones
  Gerwyn Evans
  Huw Bates
  Andrew Curley

Pwyllgor golygu

  • Ysgrifennydd:   Peter James
  • Trysorydd:   Stephen Harrison

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu