Dillad pêl-droed
Fel llawer o chwaraeon eraill, mae dillad pêl-droed (weithiau "cut pêl-droed") yn rhan hanfodol o'r gamp ac yn ddillad arbennig a wisgir gan y timau sy'n chwarae'r gêm. Mae rheolau pêl-droed yn nodi'r lleiafswm sy'n rhaid ei wisgo, ac yn gwahardd defnyddio unrhyw ddilledyn sy'n beryglus i naill ai'r chwaraewyr neu'r gwylwyr.[1] Gall cystadleuthau amrywiol fynnu rheolau eraill parthed y dillad hyn, er enghraifft maint y logos sydd ar y crysau. Gallant hefyd fynnu, pan fo dillad y ddau dim o'r un lliwiau (neu liwiau tebyg) mai'r tim cartref sy'n gwisgo'r lliwiau arferol.
|
Yn gyffredinol, gwisga'r chwaraewyr rif ar gefn eu crysau er mwyn eu hadnabod yn hawdd. Yn wreiddiol, defnyddiwyd y rhifau 1 i 11, fwy neu lai wedi eu gosod yn ôl eu safle, ond ar lefel uchel o chwarae, mae rhifau'r sgwad wedi cymryd drosodd h.y. rhif i'r chwaraewr unigol a gedwir drwy gydol y tymor. Yn ychwanegol at y rhif hwn, mae clybiau proffesiynol hefyd yn arddangos cyfenw neu lysenw'r chwaraewr uwchben y rhif.
Datblygiad
golyguMae'r cut pêl-droed wedi esblygu cryn dipyn ers dechrau cynnar y gem, pan gwisgid crysau trwchus gwlân, clôs dwyn falau (knickerbocker), ac esgidiau marchogaeth ceffyl eitha cryf a thrwm. yn yr 20g, ysgafnhaodd yr esgidiau a gwnaed y crysau o ffeibr synthetig gyda'r rhif wedi'i argraffu arno yn hytrach na'i wnïo. Ac wrth i'r byd marchnata ddatblygu gwelwyd logos y noddwr hefyd yn ymddangos ar y crysau a chopiau'n cael eu gwerthu i'r ffans; yn gyfochrog â hyn, cynyddodd incwm y clybiau.
Y dillad
golyguFel y dywedwyd, mae Rheolau'r gem yn nodi'r lleiafswm sy'n rhaid ei wisgo: Rheol 4 yw hon: "Offer y Chwaraewr". Nodir pum dilledyn: y crys, y siorts, sannau, esgidiau a'r crimogau (shin pads).[2] Caniateir i gôl-geidwaid i wisgo trowsus tracwisg yn hytrach na siorts.[3]
Nid yw'r Rheolau'n nodi pa fath o esgidiau ddylid eu gwisgo, er mai'r math gyda styds a ddefnyddir gan fwyaf.[4][5] Fodd bynnag nodir fod yn rhaid i'r crys gael llawes: naill ai'n hir neu'n fyr. Mae'n rhaid i'r gôl-geidwad wisgo crys a ellir yn hawdd ei adnabod fel gôl-geidwad. Gellir gwisgo trons thermal, ond mae'n rhaid iddynt fod o'r un lliw a'r siorts ei hun. Mae'n rhaid i'r crimogau gael eu gorchuddio'n llwyr gan y sannau ac wedi'u gwneud naill ai o rwber neu o blastig.[1] Yr unig beth arall a nodir am yr offer yw na ddylid gwisgo unrhyw beth a all fod yn beryglus.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Law 4 – The Players' Equipment". Laws of the Game 2008/2009 (PDF). FIFA. tt. 18–19. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-06-22. Cyrchwyd 1 Medi 2008.
- ↑ Geiriadur yr Academi; Gol. Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones; argraffwyd yn gyntaf yn 1995; Gwasg Prifysgol Cymru; tudalen S1271
- ↑ "Interpretation of the laws of the game and guidelines for referees: Law 4 – The Players' Equipment". Laws of the Game 2008/2009 (PDF)
|format=
requires|url=
(help). FIFA. tt. 63–64.|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ "soccer player". Visual Dictionary Online. Merriam-Webster. Cyrchwyd 28 Ebrill 2009.
- ↑ Crisfield, Deborah (1999). The complete idiot's guide to soccer. The Complete Idiot's Guide to... Alpha Books. t. 47. ISBN 0-02-862725-3.