Clwb pêl-droed o Merthyr Tudful ydi Clwb Pêl-droed Tref Merthyr (Saesneg: Merthyr Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair y De ym mhyramid pêl-droed Lloegr.
Ffurfiwyd y clwb ym 1908[1] gan chwarae yn Y Gynghrair Bêl-droed rhwng 1920 a 1930.[2]. Aeth y clwb i'r wal ym 1934 gyda dyledion o £3,000 ond wedi'r Ail Ryfel Byd sefydlwyd Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful ym 1945, ond yn dilyn trafferthion arianol cafodd y clwb ei ddirwyn i ben yn 2010. Ffurfiwyd clwb newydd gan grŵp o gefnogwyr o dan yr hen enw, C.P.D. Tref Merthyr gan gychwyn tymor 2010-11 yn Adran Gyntaf y Gynghrair Gorllewinol[1].
Record yn Ewrop
golygu
- Cwpan Cymru 3
- Enillwyr: 1949, 1951, 1987
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 1924, 1947, 1952