Merthyr Tudful

tref yn Ne Cymru

Tref ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful yw Merthyr Tudful, ym Morgannwg, de Cymru, sydd 23 milltir (37 km) i'r Gogledd o Gaerdydd. Yn 2011 roedd ganddi boblogaeth o dros 59,500. Mae etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn ethol aelod i'r Cynulliad Cenedlaethol a Merthyr Tudful a Rhymni i Senedd San Steffan yn Llundain. Mae'r etholaeth hefyd yn rhan o Ranbarth De Ddwyrain Cymru ar gyfer ethol aelodau rhanbarthol y Cynulliad. Caiff ei hadnabod ledled y byd fel prifddinas cynhyrchu haearn yn ystod y chwyldro diwydiannol.

Merthyr Tudful
Hen Neuadd y Dref Merthyr.jpg
Hen Neuadd y Dref
Math tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth 63,546 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.747263°N 3.37795°W Edit this on Wikidata
Cod OS SO049062 Edit this on Wikidata
Cod post CF47 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dawn Bowden (Llafur)
AS/au Gerald Jones (Llafur)
Mae'r erthygl yma yn sôn am dref Merthyr Tudful. Am Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, gweler Merthyr Tudful (sir).
Gweler hefyd Merthyr (gwahaniaethu).

Mae'r dref yn ymestyn o gymer afonydd Taf Fawr a Thaf Fechan - i gyfeiriad Pontypridd rhwng 100-400 metr uwchlaw lefel y môr. Tyfodd y dref oherwydd ei daeareg gyfoethog, lle y palwyd tair math o garreg: glo, haearn a chalchfaen. Ar ben hyn, roedd glaw trwm yn peri i'r nentydd lifo'n gryf gan gynhyrchu ynni i droi peiriannau'r gwaith haearn.

HanesGolygu

Mae'r dystiolaeth ddynol yn mynd nôl i'r Oes Efydd, a cheir yn yr ardal grudiau, carneddau a chylchoedd cerrig, er fod llawer o'r olion wedi'u difethau gan yr holl gloddio a chwalu'r gwaith haearn.

Cododd y Rhufeiniaid gaer yn yr ardal, ym Mhenydarren a chododd y Normaniaid gastell ym Morlais. Roedd y dref yng nghantref Senghennydd yn Nheyrnas Morgannwg. Darostyngwyd y dref gan Gilbert de Clare yn ail hanner y 13g.[1]

Adeiladodd yr Anghydffurfwyr gapel yng Nghwm-y-glo yn 1690, a chododd yr Undodiaid un yng Cefn Coed y Cymer yn 1747. Pan ddaeth y mewnlifiad o bobl yn y 19g, ymunodd y rhan fwyaf gyda'r anghydffurfwyr. Y meistri tir a'r diwydianwyr cyfoethog oedd yn perthyn i Eglwys Loegr, fel mewn llawer o lefydd yng Nghymru.

Roedd yn ardal amaethyddol tan tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Erbyn 1801 roedd y boblogaeth dros 7,000. Erbyn 1831 roedd yn 30,000 a hyhi oedd y dref fwyaf yng Nghymru. Roedd y boblogaeth yn tyfu'n gyflymach ym Merthyr nag mewn unrhyw dref arall yng Nghymru.

Erbyn diwedd y 18g roedd gwaith haearn yn bwysig iawn yng Nghymru ac roedd pedwar gwaith haearn pwysig ym Merthyr sef Gwaith Haearn Cyfarthfa (eiddo teulu Crawshay), Gwaith Haearn Dowlais, Gwaith Haearn Penydarren a Gwaith Haearn Plymouth. Ym 1831 daeth rhai blynyddoedd o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr a'r cyffiniau at uchafbwynt treisgar a adwaenir fel 'Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful' neu 'Wrthryfel Merthyr'.

Y Chwyldro DiwydiannolGolygu

Cafodd y Chwyldro Diwydiannol effaith pell-gyrhaeddol ar fywyd bob dydd pobl yn y gymdeithas, gwaith pobl ac ar fywyd gwleidyddol Cymru. Roedd twf cyflym ardaloedd fel Merthyr o fod yn bentrefi bach gwledig i fod yn drefi diwydiannol mewn cyfnod cymharol fyr wedi achosi straen enfawr.[2] Yn 1696 dim ond 40 o dai oedd ym Merthyr Tudful. Cafodd y gweithfeydd haearn cyntaf eu hadeiladu ym Merthyr yn 1765. Tyfodd canol tref Merthyr gyda’r diwydiant haearn. Erbyn 1851 roedd 46,378 o bobl yn byw yno. Adnabyddwyd Merthyr fel ‘crud’ y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru gan ddenu gweithwyr i’r gweithfeydd haearn o du mewn i Gymru, o Loegr, Iwerddon a thu hwnt. Merthyr Tudful oedd prif dref haearn Cymru yn ystod y 19eg ganrif gyda’r bedair prif waith haearn yno yn cynhyrchu’r un faint o haearn a 25% o gynnyrch haearn yr Unol Daleithiau i gyd. Crëwyd gweithlu enfawr yn yr ardal a chywasgwyd hwy i fyw mewn tai gorlawn, wedi eu hadeiladu heb unrhyw gynllun penodol lle roedd afiechydon yn rhemp.

Roedd gan Ferthyr y deunyddiau crai angenrheidiol i sicrhau llwyddiant y pedair prif waith haearn a oedd wedi eu sefydlu yno erbyn diwedd y 18g:

  • Penydarren, o dan berchenogaeth teulu’r Homfrays
  • Plymouth, o dan berchenogaeth Anthony Bacon ac yna Richard Hill
  • Dowlais, o dan berchenogaeth Josiah John Guest
  • Cyfarthfa, o dan berchenogaeth teulu’r Crawshays.[2]

Sylwodd y dynion busnes yma fod gan yr ardal y cynhwysion perffaith ar gyfer cynhyrchu haearn a safon, er enghraifft, mwyn haearn (craig yn cynnwys haearn), glo (i boethi’r haearn), calchfaen (i gyflymu’r broses) a chyflenwad o ddŵr cyfleus a digonol.

Haearn oedd un o’r diwydiannau cyntaf i newid Cymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ar ddiwedd y 18g. Cafodd rhai o’r gweithfeydd haearn cyntaf eu hadeiladu yn Sir Fynwy a Morgannwg. Adeiladwyd gweithfeydd haearn mawr o gwmpas Merthyr Tudful a Dowlais ac agorwyd gweithfeydd haearn eraill i’r dwyrain o Ferthyr yn Nant-y-glo, Blaenafon a Thredegar yn Sir Fynwy.[3]

Roedd bywyd yn galed yn y trefi haearn newydd yma fel Merthyr gan fod amodau gwaith yn beryglus, yr amgylchiadau byw yn frwnt, y gor-boblogi yn ychwanegu at straen bob dydd, a chyflogau isel ac ansicr. Roedd llawer yn troi at or-yfed fel dihangfa a oedd yn ei dro yn arwain at ochr dreisgar a chaled bywyd yn y dref. Roedd terfysgoedd wedi digwydd yn y dref yn 1800, 1813 ac 1816 a oedd yn dangos bod tensiynau yn bodoli yn y gymdeithas yno. Ond y terfysg mwyaf difrifol oedd Gwrthryfel y Gweithwyr ym Mehefin 1831.

Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr TudfulGolygu

 
Protestwyr ym Merthyr yn ystod gwrthryfel 1831

Ym 1831 daeth rhai flynyddoedd o aflonyddwch ymysg gweithwyr Merthyr Tudful a'r cyffiniau at uchafbwynt treisgar a adnabyddir fel Gwrthryfel Merthyr neu Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful. Roedd gweithwyr yn galw am ddiwygio, yn protestio yn erbyn gostwng eu cyflogau a diweithdra cyffredinol. Yn raddol, ymledodd y brotest i drefi a phentrefi diwydiannol cyfagos ac erbyn diwedd mis Mai roedd yr ardal gyfan mewn gwrthryfel, a chredir i'r faner goch chwyldro gael ei chwifio fel symbol o wrthryfel gweithwyr am y tro cyntaf. Cymerodd tua 7,000 i 10,000 o weithwyr ran yn y gwrthryfel. Am bedwar diwrnod, bu ynadon a meistri haearn dan warchae yn y Castle Hotel ac am wyth diwrnod, Tŷ Penydarren oedd yr unig loches i awdurdod. Roedd gan derfysgwyr gynnau a ffrwydryddion, gan sefydlu rhwystrau ffyrdd, a ffurfio cadwyn reoli. Gorchmynnodd llywodraeth Prydain yn Llundain y fyddin i adfer trefn yn yr ardal. I ddechrau daliodd y protestwyr oddi ar y fyddin ond erbyn Mehefin llwyddodd 450 o filwyr i wasgaru'r terfysgoedd. Lladdwyd tua 24 o brotestwyr ac arestiwyd yr arweinwyr. Dedfrydwyd dau i farwolaeth.

Bu Terfysg Merthyr yn 1831 yn drobwynt yn hanes y dosbarth gweithiol yng Nghymru gan bod y derfysg wedi dangos bod gan y dosbarth gweithiol gwynion penodol iddyn nhw fel grŵp o weithwyr. Roedd y derfysg wedi dangos eu bod yn ymwybodol o’u hunain fel carfan o weithwyr a dangosodd Terfysg 1831 eu bod am i’r cwynion hynny gael eu clywed. Teimlent gorfodaeth i droi at ddulliau terfysglyd eu natur i leisio eu barn gan nad oedd ganddynt lais gwleidyddol i wneud hynny – sef y bleidlais.

GeirdarddiadGolygu

Yn ôl traddodiad, cysylltir Merthyr â santes Tudful, merch y brenin Brychan Brycheiniog, ac enwyd y dref ar ei hôl. Dywedir iddi gael ei lladd gan baganiaid yn 480; a honodd Iolo Morgannwg yr enwyd y fan y'i lladwyd ynddo yn 'Ferthyr' Tydfil i'w hanrhydeddu[4] Ystyr y gair Lladin Martyrium yw 'man cysegredig' a daw'r enw o'r gair 'merthyr' yn ei hail ystyr, sef "eglwys er cof i sant neu ar ei fedd, neu fynwent sanctaidd".[5] Ceir sawl enw lle yng Nghymru sy'n cynnwys 'Merthyr' gan gynnwys Merthyr Mawr ym Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Cynog ym Mhowys.

ArdaloeddGolygu

 
Arfbais Merthyr Tydfil, gyda'i arwyddair: "Nid cadarn ond brodyrdde"

EglwysiGolygu

  • Capel Stryd Fawr y Bedyddwyr
  • Eglwys Santes Tudful, Caedraw
  • Eglwys Dewi Sant, Stryd Uchaf
  • Eglwys Ffynnon Santes Tudful, Y Chwarel (Saesneg: The Quar)
  • Eglwys Babyddol y Santes Fair, Pontmorlais

ChwaraeonGolygu

Lleolir Bikepark Wales, parc beicio mynydd priodol cyntaf Prydain, ym Merthyr.[6] Mae Clwb pêl Droed gan y dref sydd wedi ei leoli ym Mharc Penydarren yn ardal Abermorlais. Ar hyn o bryd, mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair De Lloegr, y seithfed lefel yn system genedlaethol pêl-droed Lloegr. Cafwyd un o ganlyniadau mwyaf enwog y clwb yn 1987, wrth iddyn nhw guro Atalanta o'r Eidal 2-1 ym Mharc Penydarren yn rownd cyntaf cwpan ennillwyr cwpannau Ewrop.

Yr iaith GymraegGolygu

Yn ôl Cyfrifiad 1891 roedd 68.4% o boblogaeth Merthyr, sef 75, 067 allan o gyfanswm o 110, 569 yn siarad Cymraeg.[7] Erbyn Cyfrifiad 1911, disgynnodd y ffigur hwn i 50.9%, sef 37, 469 allan o gyfanswm o 74, 596 (ibid.). Dengys ffigyrau Cyfrifiad 2011 fod 8.9% o boblogaeth Merthyr bellach yn siarad Cymraeg.[8] Mae Canolfan a Theatr Soar wedi lleoli yng nghanol y dref, ac yn gartref i'r iaith Gymraeg a'r celfyddydau yn y dref. Mae'r ganolfan hefyd yn gartref i Caffi Soar a Siop Llyfrau'r Enfys.

Eisteddfod GenedlaetholGolygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful ym 1881 a 1901. Am wybodaeth bellach gweler:

EnwogionGolygu

OrielGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008
  2. 2.0 2.1 "Radicaliaieth a Phrotest 1810-1848" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 7 Mawrth 2020.
  3. "Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-04-07.
  4. Farmer, David Hugh. (1978). "Tydfil". In The Oxford Dictionary of Saints.
  5. Geiriadur Prifysgol Cymru, vol. III, tudalen 2436.
  6. http://www.bikeparkwales.com/
  7. Edwards, Hywel Teifi (2001). "Pennod 4: Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Merthyr Tudful 1881 ac 1901". In Edwards, Hywel Teifi. Merthyr a Thaf. Gwasg Gomer. tud. 100–110. ISBN 1 84323 025 9
  8. http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Cymorth/dataacystadegau/Pages/Cyfrifiad2011canlyniadauanewidiadauer2001.aspx/. Gwefan Comisiynydd y Gymraeg. Adalwyd Ebrill 2014

Dolenni allanolGolygu