C.P.D. Y Trallwng

Clwb pêl-droed Cymraeg

Mae Clwb Pêl-droed Y Trallwng (Saesneg: Welshpool Town Football Club) yn glwb pêl-droed sy'n chwarae ar Faes-y-dre yn Y Trallwng.

C.P.D. Y Trallwng
Enw llawn Clwb Pêl-droed Y Trallwng
Llysenw(au) Y Gwynion
Sefydlwyd 1878
Maes Maes-y-Dre

Hanes golygu

Roedd y clwb yn aelod gwreiddiol y Cynghrair Undebol yn 1990, gorffenodd y clwb yn ail yn 1993 a 1996. Gan nad oedd Croesoswallt yn gymwys ar gyfer dyrchafiad y tymor hwnnw, cafodd y Trallwng gymryd eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 1996/97. Byr oedd eu hymddangosiad ac roedden nhw'n nôl yn y Cynghrair Undebol ar ôl dau dymor. Enillon nhw'r gynghrair ac ennill eu lle yn ôl yn yr Uwchgynghrair yn 2002. Goffenodd y clwb yn y 6ed safle yn yr Uwch Gynghrair yn 2005/2006, sef eu safle uchaf erioed. Yn dilyn ailstrywtho'r gynghrair, gwrthodwyd trwydded i'r clwb, a bu'n rhaid iddynt disgyn i gynghrair îs.