Y Trallwng

tref a chymuned ym Mhowys

Tref a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Powys, Cymru, yw Y Trallwng[1] (Saesneg: Welshpool;[2] cyn 1835 Pool). Saif ar lan Afon Hafren, 4 milltir (6.4 km) o'r ffin rhwng Cymru â Lloegr. Arferai fod yn yr hen Sir Drefaldwyn. Gerllaw, i'r dwyrain, saif Cefn Digoll (408 metr (1,339 tr), a chwaraeodd ran mor allweddol yn amddiffyn y genedl oddi wrth y goresgynwyr estron: y Saeson. Yma ar 16 Awst 1485 y cyfarfu dwy fyddin: milwyr Harri Tudur (tua dwy fil o filwyr) a byddin Rhys ap Thomas (tua 3,000) gan uno'n un fyddin gref; oddi yma teithiodd y fyddin tua'r dwyrain i'r Amwythig ac ymlaen i Faes Bosworth.

Y Trallwng
High Street, Welshpool - geograph.org.uk - 212594.jpg
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,664 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6597°N 3.1473°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000352 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ225075 Edit this on Wikidata
Cod postSY21 Edit this on Wikidata

Ceir yn y Trallwng farchnad ddefaid, a gynhelir bob dydd Llun, yw'r mwyaf o'i fath yn Ewrop.[3] Tua milltir o'r dref saif Castell Powys, a godwyd yn wreiddiol gan y Tywysogion Cymreig yn y 13g. Cysegrir y ddwy eglwys i sant Cynfelyn.

Neuadd y Dref, Y Trallwng

HanesGolygu

Mae ffiniau plwyf Eglwys St Cynfelin fwy neu lai'n dilyn hen ffiniau cwmwd Ystrad Marchell, o fewn cantref Ystlyg yn Nheyrnas Powys.[4][5]

Am gyfnod byr, o tua 1212, y Trallwng oedd prifddinas Powys Wenwynwyn (sef de Powys).

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Trallwng (pob oed) (6,664)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Trallwng) (785)
  
12.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Trallwng) (2876)
  
43.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Trallwng) (1,105)
  
37.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

OrielGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Tachwedd 2021
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. "Historical Settlement Survey - Montgomeryshire - Welshpool" (PDF). CPAT.
  5. "Montgomeryshire Churches Survey - Church of St Mary, Welshpool". CPAT. CPAT. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-13. Cyrchwyd 2019-01-26.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.