Teledu cylch cyfyng
(Ailgyfeiriad o CCTV)
Cyfeiria teledu cylch cyfyng (Saesneg: closed-circuit television, CCTV) at y defnydd o gamerâu fideo i drosglwyddo signal i fan penodol, ar nifer cyfyng o fonitorau.
Defnyddir y term yn bennaf ar gyfer y camerâu a ddefnyddir i wylio a chadw llygad ar ardaloedd sydd angen eu monitro, megis banciau, casinos, meysydd awyr, sefydliadau milwrol a siopau bwyd.