Maes awyr
Lleoliad yw maes awyr lle mae awyrennau megis awyrennau adain sefydlog, hofrennyddion, a blimpiau yn gadael a glanio. Mewn unrhyw faes awyr ceir o leiaf un rhedfa ar gyfer awyrennau i adael a glanio, hofrenfa ac yn aml ceir adeiladau megis tyrau rheoli, awyrendai ac adeiladau gorsaf y maes awyr.
Mae gan feysydd awyr codau adnabod fel arfer gan ddau awdurdod; Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO) a'r Cymdeithas Cludiant Awyr Rhyngwladol (IATA).
Hanes
golyguY rheswm pennaf dros dwf meysydd awyr oedd gweithrediadau milwrol, yn enwedig y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, ond datblydwyd llawer o feysydd awyr trwy'r 1920au a 1930au. Yr ail gyfnod o ran twf oedd yn y 1950/60au pan welwyd cynnydd arall mewn teithio rhyngwladol. Trwy'r cyfnod hwn, datblygodd y maes awyr yn sefydliad llawer mwy soffistigedig.
Yng Nghymru, datblygwyd nifer o feysydd awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd: RAF Sain Tathan a adeiladwyd ym 1938, RAF Pen-bre ym 1939, RAF Fali ym 1941, RAF Rhoose (Maes Awyr Caerdydd) ym 1942, RAF Brawdy ym 1944, ac ati. Caewyd y rhan fwya ohonyn nhw yn syth ar ôl y rhyfel a mabwysiadwyd nifer gan gyrff cyhoeddus neu breifat.
Rhestr meysydd awyr Cymru
golyguOherwydd fod Cymru'n fynyddig, nid oes llawer o feysydd awyr yng Nghymru, ac ar y cyfan maent wedi'u lleoli o gwmpas yr arfordir lle ceir tir gwastad.
Lle | Enw | Defnydd | ICAO | Hyd (troedfedd) |
Arwyneb |
---|---|---|---|---|---|
Aberporth | Maes Awyr Gorllewin Cymru | Hedfan mewnol | EGFA | 3,031 | Asffalt |
Abertawe | Maes Awyr Abertawe | Hedfan rhyngwladol | EGFH | 4,429 | Asffalt / Concrid |
Brynbuga | Clwb Gleidio | Gwair | |||
Caerdydd | Helipad Caerdydd | Hedfan rhyngwladol | EGFC | 300 | Concrete |
Caerdydd | Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd | Hedfan rhyngwladol | EGFF | 7,848 | Asffalt |
Caernarfon | Maes Awyr Caernarfon | Hedfan mewnol | EGCK | 3,543 | Asffalt |
Dinbych | Parc Lenewi | Clwb Gleidio | Gwair | ||
Hawarden | Maes Awyr Hawarden | Hedfan mewnol | EGNR | 6,702 | Asffalt / Concrid |
Hwlffordd | Maes Awyr Hwlffordd | Hedfan mewnol | EGFE | 5,000 | Asffalt |
Llanbedr | Maes Awyr Llanbedr | Hedfan mewnol | EGOD | 7,500 | Asffalt |
Llandegla | Clwb Gleidio | Gwair | |||
Pen-bre | Maes Awyr Pen-bre | Hedfan mewnol | EGFP | 2,614 | Asffalt |
Rhigos | Clwb Gleidio | Gwair | |||
Sain Tathan | MOD Sain Tathan | Milwrol | EGDX | 5,988 | Asffalt |
Talgarth | Clwb Gleidio | Gwair | |||
Y Fali | Maes Awyr Môn, RAF y Fali | Hedfan mewnol a Milwrol | EGOV | 7,513 | Asffalt |
Y Trallwng | Maes Awyr Canolbarth | Hedfan mewnol | EGCW | 3,346 | Asffalt |
Meysydd awyr hanesyddol
golygu- RAF Brawdy
- Llandw
- RAF Llandwrog
- RAF Sealand
- Ty Dewi
Cyrchfannau rhyngwladol
golyguMae'n bosib teithio i sawl lle drwy Ewrop a gweddill y byd o feysydd awyr Cymru, yn enwedig o Gaerdydd. Mae llawer o deithwyr yn gyrru o Gymru i Fryste, Manceinion neu Lundain i deithio gan ei fod ar y cyfan yn rhatach.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Week In Week Out Cyfnod Anodd Maes Awyr Caerdydd
- ↑ Newyddion BBC "Mae'r ffigurau newydd yn awgrymu bod ychydig yn fwy o deithwyr oedd yn teithio'n ôl ac ymlaen o Gymru wedi defnyddio Bryste yn hytrach na Chaerdydd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn."